Éamon de Valera
Éamon de Valera (ganwyd Edward George de Valera, enw Gwyddeleg Éamonn de Bhailéara) (14 Hydref 1882 - 29 Awst 1975), oedd un o arweinyddion y mudiad dros annibyniaeth Iwerddon oddi wrth Brydain ar ddechrau'r 20g. Cymerodd ran yng Ngwrthryfel y Pasg yn 1916, a bu bron iddo gael ei ddienyddio gydag arweinwyr eraill y gwrthryfel gan y Saeson. Gwrthododd arwain y ddirprwyaeth a aeth i Lundain i gael Cytundeb gyda Llywodraeth Prydain. Arhosodd yn ôl yn Nulyn. Ond roedd yn anghytuno'n llwyr gyda'r telerau a arwyddwyd ar ei ran gan Michael Collins, Arthur Griffith a'r dirprwyaeth, ac yn flin na wnaethant gysylltu a thrafod ag ef cyn arwyddo. Achosodd telerau'r cytundeb a arwyddwyd, Cytundeb Eingl-Wyddelig iddo ymddiswyddo fel Arlywydd Iwerddon. Yn ddiweddarch daeth yn arweinydd yr wrthblaid Weriniaethol yn ystod y Rhyfel Cartref Iwerddon 1922-23. Wedi methiant y Rhyfel Cartref i newid polisi y wladwriaeth newydd, fe sefydlodd de Valera blaid weriniaethol newydd, Fianna Fáil a ddaeth fewn i rym yn 1932. Yn ddiweddarach, daeth yn Brif Weinidog dair gwaith (y tro cyntaf fel ail Arlywydd y Cyngor Gweithredol, ac fel y Taoiseach cyntaf (teitl y Prif Weinidog yn ôl Cyfansoddiad 1936)). Gorffennodd ei yrfa wleidyddol fel trydydd Arlywydd Gweriniaeth Iwerddon (Gwyddeleg: Uachtarán na hÉireann), rhwng 25 Mehefin 1959 a 24 Mehefin 1973. Cyfansoddiad IwerddonDe Valera oedd prif awdur a symbylydd ysgrifennu Cyfansoddiad Iwerddon ar ddiwedd yr 1930au. Rhoddodd y Cyfansoddiad statws a threfn i Wladwriaeth Rydd Iwerddon. Er bod pwyslais fawr ar ddysgeidiaeth grefyddol Catholig mae'n ymwrthod â gwneud Catholigiaeth yn grefydd swyddogol y wladwriaeth newydd. Bu sawl newid i'r cyfansoddiad dros y degawdau, ond mae'n dal i fod, yn ei hanfod, yn arwydd o lwyddiant gwaddol de Valera. Gweler hefyd
|