Ardal Malvern Hills
Ardal an-fetropolitan yn Swydd Gaerwrangon, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Ardal Malvern Hills. Mae gan yr ardal arwynebedd o 577.1 km², gyda 78,113 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'r ardal yn cwmpasu'r rhan fwyaf o hanner gorllewinol Swydd Gaerwrangon. Mae'n ffinio â thair ardal arall Swydd Gaerwrangon, sef Ardal Wyre Forest, Ardal Wychavon a Dinas Caerwrangon, yn ogystal â siroedd Swydd Amwythig, Swydd Henffordd a Swydd Gaerloyw. Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974 fel rhan o sir newydd Henffordd a Chaerwrangon. Pan ddiddymwyd y sir honno ym 1998, ac ailgyhoeddwyd hen ffiniau sirol Swydd Henffordd a Swydd Gaerwrangon, collodd Malvern Hills ran sylweddol o'i arwynebedd gorllewinol i Swydd Henffordd, ond ychwanegodd Tenbury Wells i'r gogledd, ac roedd yr ardal gyfan wedi'i chyfyngu o fewn ffiniau Swydd Gaerwrangon. Pencadlys yr awdurdod yw Great Malvern. Tenbury Wells ac Upton-upon-Severn yw trefi eraill yr ardal. Cyfeiriadau
|