Ardal Swydd Stafford Moorlands
Ardal an-fetropolitan yn Swydd Stafford, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Ardal Swydd Stafford Moorlands (Saesneg: Staffordshire Moorlands District). Mae gan yr ardal arwynebedd o 170.9 km², gyda 98,397 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'r ardal yng ngogledd Swydd Stafford. Mae'n ffinio â pedair ardal arall Swydd Stafford, sef Bwrdeistref Newcastle-under-Lyme, Dinas Stoke-on-Trent, Bwrdeistref Stafford ac Ardal Dwyrain Swydd Stafford, yn ogystal â siroedd Swydd Gaer i'r gogledd a Swydd Derby i'r dwyrain. Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Cyfunodd nifer o ardaloedd llywodraeth leol llai. Rhennir yr ardal yn 42 o blwyfi sifil. Mae ei phencadlys yn nhref Leek. Mae'n cynnwys trefi Cheadle a Biddulph hefyd. Gweler hefydCyfeiriadau
|