Share to: share facebook share twitter share wa share telegram print page

 

Blanche Parry

Blanche Parry
Ganwyd1507 Edit this on Wikidata
Bu farw12 Chwefror 1590 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweithiwr y llys, boneddiges breswyl Edit this on Wikidata
Portread Blanche Parry

Un o gyfeillion mynwesol, Confidante, Chief Gentlewoman a Cheidwad Tlysau Elisabeth I, brenhines Lloegr, oedd Blanche Parry neu Blanche ap Parry [1] (1507/8 – 12 Chwefror 1590) a darddai o deulu ardal y gororau. Bu'n gyfaill i'r frenhines am gyfnod o 56 mlynedd. Eglwys St Faith, Bacton, Lloegr oedd eglwys teulu Blanche ac yno, yn 82 oed, y'i claddwyd. Siaradai Gymraeg yn rhugl: hen daid Blanche oedd Harri Ddu ac roedd Syr William Cecil a John Dee yn gefndryd iddi.

Ceir peth tystiolaeth iddi ddysgu hwiangerddi ac elfennau Cymraeg i'r Frenhines Elisabeth.[2]

Magwraeth a theulu

Fe'i ganed yn Bacton, Swydd Henffordd, yn ferch i Henry Miles ac Alis (a oedd yn ferch i Simon Milbo(u)rne). Saif Bacton yn Nyffryn y Dŵr, a elwir bellach yn The Golden Valley - camddealltwriaeth yn yr Oesoedd Canol mai 'aur' (d'ore) oedd ystyr 'Afon Dŵr' neu River Dore'.

Roedd ei thad yn stiward Abaty Dore, yn siryf Swydd Henffordd, ac yn perthyn i deulu Iarll Penfro (teulu Herbertiaid o Raglan). Bu ei thad farw pan oedd yn 16 oed ac ail briododd ei mam. Mae'n ddigon posibl i Blanche gael ei haddysgu gan leianod Urdd Awgwstin Lleiandy Aconbury.[3]

Hen daid Blanche oedd Harri Ddu, y canodd Guto'r Glyn farwnad iddo:

Dyrnod hoedl drwy Went ydoedd,
Dwyn Harri Ddu (dyn hardd oedd).

Sonir mewn naw cerdd wahanol am ei theulu: pump gan Guto'r Glyn, a cherdd yr un gan Gwilym Tew, Howel Dafi, Huw Cae Llwyd a Lewys Morgannwg.[4]

Symud i Lundain

Yn ifanc iawn, ac oherwydd ei chysylltiad gyda Blanche Herbert (Lady Troy), a oedd yn athrawes neu'n 'feistres' i blant Harri VIII: sef Elizabeth I ac Edward (a ddaeth yn Edward VI), ymwelodd â Llundain. Roedd yr Arglwyddes Troy yn trigo gyda'i theulu yn 'Troy House', Sir Fynwy ac, fel Parry, roedd yn gwbwl ddwyieithog. Roedd Lewys Morgannwg yn gyfaill i'r teulu a disgrifia hi mewn cywydd fel 'Arglwyddes breninesau'.[5] Ymddengys, felly iddi gael cryn ddylanwad ar Blanche Parry, a ddaeth yn ddiweddarach yn athrawes (neu feistres) ar Elizabeth I. Yn 1552 dychwelodd i Sir Fynwy gan adael Blanche Parry (gyda Kate Ashley) yn gyfrifol am blant y brenin.

Yr ail gysylltiad gyda Llundain a theulu brenhinol y Tuduriaid oed Syr William Cecil, barwn Burghley, cefnder iddi.

Marwolaeth

Cafodd ei chladdu yn Eglwys Santes Marged, Westminster, ond yn Eglwys Sant Faith y codwyd y prif gofeb iddi, sy hefyd yn cynnwys y cerflun cyntaf o Elisabeth I (y Gloriana). Yn yr eglwys hon y canfyddwyd fod hen liain yr allor yn rhan o wisg Elisabeth I - yr unig ddilledyn sydd wedi goroesi. Dengys hyn y cysylltiad cryf rhwng Blanche ac Elizabeth.

Cerflun Eglwys Bacton, Swydd Henffordd

Sgwennwyd y beddargraff gan Blanche ei hun rywbryd cyn Tachwedd 1578. Ceir beddargraff arall yn Eglwys Santes Marged, Westminster, lle'i claddwyd.

Gweler hefyd

  • Llyn Syfaddan - ceir llu o ddogfennau am drosglwyddiad y llyn, yn anrheg gan Elisabeth I i Blanche Parry.

Cyfeiriadau

  1. blancheparry.com; Archifwyd 2015-09-15 yn y Peiriant Wayback adalwyd 12 Chwefror 2017.
  2. http://www.tudorplace.com.ar/Bios/BlancheParry.htm
  3. Richardson 2007, tud. 32–34
  4. Richardson 2007, tud. 157ndash;17, 20, 40–41, 167
  5. blancheparry.com; Archifwyd 2016-03-12 yn y Peiriant Wayback adalwyd 12 Chwefror 2018.

Llyfryddiaeth

  • Ballard, George: Memoirs of several ladies of Great Britain..., 1752.
  • Bradford, Charles Angell: Blanche Parry, Queen Elizabeth's Gentlewoman, pamffled 1935.
  • Richardson, Ruth Elizabeth: Mistress Blanche, Queen Elizabeth I's Confidante , Logaston Press, 2007.
  • Borman, Tracy: Elizabeth's Women; The Hidden Story of the Virgin Queen, Jonathan Cape, Llundain, 2009.

Dolenni allanol

Prefix: a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Portal di Ensiklopedia Dunia

Kembali kehalaman sebelumnya