Brad Pitt
Actor a chynhyrchydd ffilmiau o'r Unol Daleithiau yw William Bradley "Brad" Pitt (ganwyd 18 Rhagfyr 1963). Daeth yn enwog yn sgîl nifer o ffilmiau llwyddiannus yn ystod canol y 1990au. Caiff ei ystyried fel un o ddynion mwyaf golygus y byd a thelir sylw mawr gan y cyfryngau i'w fywyd personol. Mae Pitt wedi cael ei enwebu am un o Wobrau Golden Globe ac un o Wobrau'r Academi. Dechreuodd Pitt ei yrfa ar raglenni teledu gan gynnwys rôl rheolaidd ar yr opera sebon CBS Dallas ym 1987. Cafodd rannau cefnogol hefyd mewn ffilmiau ar gyfer arddegwyr, comedïau a dramâu chwaraeon teuluol. Daeth yn adnabyddus fel y cowboi sy'n cael cyfathrach rhywiol gyda chymeriad Geena Davis yn y ffilm Thelma & Louise (1991). Cafodd Pitt chwarae'r brif ran am y tro cyntaf yn y ffilm Interview with the Vampire (1994). Derbyniodd ganmoliaeth clodwiw am ei ran yn y ffilm droseddol Se7en a'r ffilm wyddonias Twelve Monkeys. Derbyniodd ganmoliaeth a beirniadaethau cadarnhaol hefyd am ei rôl yn y ffilm Fight Club (1999), lle chwaraeodd ran Tyler Durden. Ers hynny, mae ef wedi sefydlu ei hun ferl actor o'r radd flaenaf. Ei lwyddiannau mwyaf o safbwynt masnachol oedd Ocean's Eleven (2001), Spy Game (2001), Troy (2004), y comedi antur Mr. & Mrs. Smith (2005), a Burn After Reading (2008). Bywyd personolWedi iddo gael perthynas enwog gyda'r actores Gwyneth Paltrow, a phriodas â Jennifer Aniston, cychwynodd berthynas gyda'r actores Angelina Jolie a priododd y ddau yn Awst 2014. Mae eu perthynas wedi denu sylw'r cyfryngau ledled y byd a bathwyd y cyfansoddair "Brangelina". Maent wedi mabwysiadu tri o blant, Maddox, Pax a Zahara, a mae ganddynt tri o blant biolegol, Shiloh, Knox a Vivienne. Ers ei berthynas gyda Jolie, mae Pitt wedi ymroi'n fwyfwy i faterion cymdeithasol, yn ei wlad ei hun yn ogystal â thramor. Yn Medi 2016 cyhoeddwyd fod Jolie wedi gwneud cais am ysgariad.[1] Gwragedd
PlantFfilmiau
Cyfeiriadau
|