Bram Stoker
Nofelydd a storïwr byrion Gwyddelig oedd Abraham "Bram" Stoker (8 Tachwedd 1847 – 20 Ebrill 1912). Erbyn heddiw, mae'n fwyaf adnabyddus am ei nofel Gothig Dracula o 1897. Yn ystod ei fywyd, roedd yn fwy adnabyddus fel cynorthwyydd personol i'r actor Henry Irving ac fel rheolwr busnes yn Theatr Lyceum yn Llundain a oedd yn eiddo i Irving. MagwraethGanwyd Stoker ar 8 Tachwedd 1847 yn 15 Marino Crescent, Clontarf, sef rhan ogleddol o Ddulyn, Iwerddon.[1] Ei dad oedd Abraham Stoker (1799–1876), o Ddulyn, a'i fam oedd Charlotte Mathilda Blake Thornley (1818–1901), a fagwyd yn Swydd Sligo.[2] Ef oedd y trydydd o saith plentyn; yr hynaf oedd Syr Thornley Stoker. Roedd y teulu'n aelodau o Eglwys y Plwyf, Clontarf, a oedd yn eglwys Babyddol ac yno y bedyddiwyd pob un o'r plant.[3] Cyfeiriadau
|