Brut y Brenhinedd
Brut y Brenhinedd ('Cronicl' neu 'Hanes y Brenhinoedd') yw'r teitl mwyaf cyffredin ar yr amrywiol fersiynau Cymraeg Canol o'r Historia Regum Britanniae (Lladin), llyfr enwocaf yr awdur Cambro-Normanaidd Sieffre o Fynwy (c.1100 – c.1155) a gyhoeddwyd ganddo tua'r flwyddyn 1136. 'Brut Sieffre' a fu'n bennaf gyfrifol am ymledu chwedl y Brenin Arthur ledled Ewrop yn yr Oesoedd Canol. Ffug hanes a geir yn y llyfr, a ysgrifennwyd yn Lladin, ond roedd ei ddylanwad yn aruthrol. Cafwyd sawl trosiad Cymraeg Canol diweddarach dan yr enw Brut y Brenhinedd neu Brut y Brytaniaid. Er eu bod yn seiliedig ar waith Sieffre o Fynwy ceir gwahaniaethau pwysig yn eu cynnwys a'u pwyslais ac mae hynny, ynghyd â'r ffaith eu bod ymhith y testunau Cymraeg Canol mwyaf diddorol a difyr, yn eu gosod ar wahân. Historia Sieffre a Brut y BrenhineddMae Brut y Brenhinedd, fel yr Historia Regum Britanniae, yn adrodd hanes honedig Ynys Prydain o ddyfodiad Brutus o Gaerdroea (tua 1000 o flynyddoedd CC, os credir yr hanes), disgynnydd Aeneas Ysgwydwyn, hyd farwolaeth y brenin Cymreig Cadwaladr yn y 7g (am grynodeb o'r cynnwys gweler Historia Regum Britanniae). Yn ôl Sieffre ei hun yr oedd wedi cyfieithu'r hanes o hen lyfr Cymraeg, ond ni chredir fod sail i hyn. Serch hynny mae'n amlwg fod rhai o'r bobl a digwyddiadau yn y llyfr (ac eithrio hanes Brutus a'i ddisgynyddion, a.y.y.b) yn seiliedig ar draddodiadau Cymreig dilys. Gwahaniaeth amlwg rhwng llyfr Sieffre a'r mwyafrif o destunau Brut y Brenhinedd yw'r ffaith nad yw'r cyntaf yn cynnwys y chwedl Cyfranc Lludd a Llefelys. Dyma un o'r prif ystyriaethau wrth ddosbarthu testunau amrywiol Brut y Brenhinedd. Mae'r testunau Cymraeg Canol sydd ddim yn cynnwys chwedl Lludd a Llefelys yn addasiadau neu gyfieithiadau gweddol agos o destun Lladin llyfr Sieffre. Fersiynau a thestunauCeir dros 60 o drosiadau neu gyfaddasiadau Cymraeg Canol gyda'r cynharaf i'w ddyddio i tua dechrau'r 13g. Yn ôl ysgolheigion fel Brynley F. Roberts, ymrannant yn chwe phrif fersiwn a ddosberthir yn ôl enw'r llawysgrif gynharaf y ceir y testun ynddi. Ystyrir tri ohonynt yn gyfieithiadau rhydd, sef:
Ystyrir y tri arall yn addasiadau mwy gwreiddiol, sef:
Ceir un o'r testunau cynnar yn Llyfr Coch Hergest, ond gwyddys mai testun cyfansawdd yw, yn deillio o fersiynau Dingestow a Llanstephan 1. Un o'r anhawsterau pennaf sy'n wynebu ymchwilwyr i hanes dyrys y fersiynau hyn a'r perthynas rhyngddynt ydy'r ffaith nad oes trefn foddhaol ar ddosbarthiad a hanes y llawysgrifau Lladin o ffug hanes Sieffre. Yn ogystal, mae'r mwyafrif helaeth o'r testunau Cymraeg ar gael yn y llawysgrifau yn unig, heb eu hastudio'n iawn na'u cyhoeddi. Yn ogystal â gwahaniaethu testunol, mae'r testunau Cymraeg Canol yn bwysig am eu bod yn rhoi enwau Cymraeg ar rai o'r cymeriadau amlycaf, yn arbennig yn yr ail ran o'r llyfr, sy'n ein cynorthwyo i wahaniaethu rhwng creadigaethau dychymyg Sieffre a chymeriadau sy'n perthyn i'r traddodiad Cymreig. Elfen amlwg hefyd yw'r ffordd yr ymhelaetha'r cyfarwyddiaid anhysbys a luniodd y testunau Cymraeg ar rai digwyddiadau: ceir ychwanegiadau pwysig nad ydynt yn y fersiynau Lladin. Testunau cyhoeddedig o Frut y Brenhinedd
Darllen pellach
Dolen allanol |