Bwlgareg
Iaith Slafeg Ddeheuol yw Bwlgareg. Heddiw iaith swyddogol Bwlgaria yw hi, ac, yn ôl cyfrifiad Bwlgaria 2001, mae 6,697,158 o bobl yn siarad Bwlgareg fel mamiaith ym Mwlgaria (84.5% o'r boblogaeth). Ceir lleiafrifoedd Bwlgareg eu hiaith yn Wcrain, Gwlad Groeg, Twrci ac yn gyffredinol dros wledydd y Balcanau. Mae cyfanswm o 8–9 miliwn o bobl yn ei siarad. Ysgrifennir Bwlgareg â'r wyddor Gyrilig. Mae cyfnodion yr iaith yn dyddio i'r 9g, pan gynhyrchiwyd nifer o lawysgrifau ym Mwlgaria yn Hen Slafoneg Eglwysig, iaith lenyddol gyntaf y Slafiaid, wedi'i seilio ar dafodieithoedd Slafeg Macedonia a Bwlgaria. Parhaodd traddodiad llenyddol llewyrchus yn yr iaith yn y cyfnod Bwlgareg Canol (12g – 15g), ond dirywiodd ei statws yn ystod rheolaeth yr Otomaniaid. Crëwyd iaith safonol newydd yn y 14g fel rhan o ddiwygiad cenedlaethol Bwlgaria. Mae'r iaith gyfoes yn wahanol iawn i Hen Slafoneg Eglwysig. Mae wedi colli'r system gymhleth o gyflyrau enwol oedd gan yr iaith honno, ac wedi profi nifer o gyfnewidiadau fel rhan o ardal ieithyddol y Balcanau sydd wedi dod â hi'n nes yn ei strwythur at ieithoedd o grwpiau eraill megis Groeg, Albaneg, Rwmaneg a Thyrceg. OrgraffDefnyddir amrywiaeth ar yr wyddor Gyrilig i ysgrifennu Bwlgareg. Yr wyddor gyfoes (a gwerthoedd IPA y llythrennau) yw:
Cyn diwygiad orgraffol 1945, defnyddid dwy lythyren ychwanegol, yat (Ѣ ѣ) /æː/ a yus fawr (Ѫ ѫ) /ɔ̃/. Defnyddid yus fawr i gyfleu'r un sain, schwa /ə/, â Ъ ъ. Defnyddir yat i gyfleu /a/ neu /e/ yn ôl ei safle yn y gair.
Seineg a ffonolegMorffolegCystrawenGeirfa Argraffiad Bwlgareg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
|