Bwrdeistref Fetropolitan Bury
Bwrdeistref fetropolitan ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Fetropolitan Bury (Saesneg: Metropolitan Borough of Bury). Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 99.5 km², gyda 190,990 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Bwrdeistref Fetropolitan Rochdale i'r dwyrain, Dinas Manceinion a Dinas Salford i'r de, Bwrdeistref Fetropolitan Bolton i'r gorllewin, a Swydd Gaerhirfryn i'r gogledd. Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Manceinion Fwyaf, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas. Mae'r fwrdeistref yn hollol ddi-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Bury ei hun. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Prestwich, Radcliffe, Ramsbottom, Tottington a Whitefield. Cyfeiriadau
|