Bwrdeistref Torbay
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Dyfnaint, De-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Torbay (Saesneg: Borough of Torbay). Mae gan yr ardal arwynebedd o 62.9 km², gyda 136,264 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ag Ardal Teignbridge i'r gogledd-orllewin, ac Ardal South Hams i'r de-orllewin, yn ogystal â'r Môr Udd i'r dwyrain. Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974, fel ardal an-fetropolitan dan reolaeth cyngor sir Dyfnaint, ond daeth yn awdurdod unedol, sy'n annibynnol ar y sir, ar 1 Ebrill 1998. Mae'r awdurdod yn hollol ddi-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Torquay. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Brixham a Paignton. Mae'r tair tref glan môr hyn yn ffurfio anheddiad di-dor o amgylch cilfach Bae Tor (Saesneg: Tor Bay), sy'n rhoi ei enw i'r awdurdod. Cyfeiriadau
|