Bwrdeistref Wokingham
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Berkshire, De-ddwyrain Lloegr, yw Bwrdeistref Wokingham. Mae gan yr ardal arwynebedd o 179 km², gyda 167,979 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'n ffinio ar Orllewin Berkshire a Bwrdeistref Reading i'r gorllewin, Bwrdeistref Frenhinol Windsor a Maidenhead a Bwrdeistref Bracknell Forest i'r dwyrain, Swydd Rydychen a Swydd Buckingham i'r gogledd, a Hampshire i'r de. Ffurfiwyd y fwrdeistref ar 1 Ebrill 1974 fel ardal an-fetropolitan o dan reolaeth yr hen sir an-fetropolitan Berkshire. Pan ddiddymwyd y cyngor sir ar 1 Ebrill 1998, daeth y fwrdeistref yn awdurdod unedol. Lleolir pencadlys yr awdurdod yn nhref Wokingham. Mae aneddiadau eraill yn ardal yr awdurdod yn cynnwys trefi Earley a Woodley. Cyfeiriadau
|