Carwyn Jones
Gwleidydd o Gymru yw Carwyn Howell Jones, Arglwydd Jones o Ben-y-bont (ganwyd 21 Mawrth 1967) a wasanaethodd fel Prif Weinidog Cymru ac Arweinydd Llafur Cymru rhwng 2009 a 2018. Gwasanaethodd fel Cwnsler Cyffredinol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru rhwng 2007 a 2009. Bu'n aelod o'r Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr rhwng 1999 a 2021. Mae'n aelod o Dy'r Arglwyddi ers Ionawr 2025.[1] Gwasanaethodd Jones fel Gweinidog yn barhaol o 23 Chwefror 2000 hyd ei ymddeoliad fel Prif Weinidog ar 11 Rhagfyr 2018 - cyfanswm o 6,867 diwrnod, gan ei wneud y Gweinidog Llafur a wasanaethodd hiraf yn hanes y Deyrnas Gyfunol. Bywyd cynnarGanwyd Carwyn yn Abertawe ac fe'i magwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr mewn teulu o siaradwyr Cymraeg.[2] Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac aeth ymlaen i astudio ym Prifysgol Cymru, Aberystwyth,[3] lle ymunodd a'r Blaid Lafur yn ystod streic y glowyr 1984-85.[2] Gyrfa broffesiynolGraddiodd o Brifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1988 gyda gradd yn y Gyfraith ac aeth ymlaen i Ysgol y Gyfraith Inns of Court yn Llundain i hyfforddi fel bargyfreithiwr.[3] fF'i galwyd i'r bar yn Gray's Inn yn 1989 a treuliodd flwyddyn pellach yng Nghaerdydd ar dymor prawf wedi ei ddilyn gan 10 mlynedd yn ymarfer yn Siambrau Gower, Abertawe ar gyfraith teuluol, troseddol ac anafiadau personol.[4] Gadawodd i fynd yn diwtor ym Mhrifysgol Caerdydd am ddwy flynedd ar y Cwrs Bar Galwedigaethol.[3]"[5] Cystadlodd Carwyn yn anllwyddiannus am enwebiad Llafur yn sedd Brycheiniog a Sir Faesyfed yn 1997;[6] a dywedodd yn ddiweddarach mewn cyfweliad gyda'r BBC [7] ei fod wedi ystyried ceisio dod yn Aelod Seneddol, ond yn 1999, "cafodd gyfle" i sefyll dros etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn etholiadau cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac mae wedi dal y sedd ers hynny. Yn Ionawr 2020 fe'i benodwyd yn Athro'r Gyfraith rhan amser ym Mhrifysgol Aberystwyth.[8] PrifweinidogaethEnillodd Carwyn Jones y ras i olynu Rhodri Morgan fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru ar 1 Rhagfyr 2009, gyda 51.97% o'r bleidlais, gan drechu Edwina Hart (29.19%) a Huw Lewis (18.84%).[9] Enwebwyd ef gan y Cynulliad i olynu Rhodri Morgan fel Prif Weinidog Cymru ar y 9 o Rhagfyr[10] a chymerodd y llw drenydd, sef ddydd Iau, 10 Rhagfyr mewn seremoni ffurfiol dan arweiniad y barnwr Mr Ustus Nigel Davis yn swyddfa Carwyn Jones ym Mharc Cathays, Caerdydd.[11] Ad-drefnodd cabinet Llywodraeth y Cynulliad ar ôl dod yn brif weinidog. Penododd Leighton Andrews, rheolwr ei ymgyrch,[11] fel Gweinidog dros Blant, Addysg, a Dysgu Gydol Oes. Ers ymddiswyddiad Gordon Brown yn 2010 Carwyn ydy'r Gweinidog uchaf ei swydd yn y Blaid Lafur drwy wledydd Prydain. Ei daith dramor gyntaf fel Prif Weinidog oedd i Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Copenhagen ar 14 Rhagfyr 2009.[12] Gadawodd y gynhadledd yn gynnar y diwrnod canlynol oherwydd marwolaeth ei fam, Janice Jones.[13] Yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2011 cynyddodd y Blaid Lafur y nifer o aelodau oedd ganddynt i un yn llai na'r hyn oedd ei angen i fod yn y mwyafrif. Penderfynodd Carwyn weithredu fel (ac i ffurfio) Llywodraeth yn hytrach na pharhau efo'r glymblaid. Mewn araith yng nghynhadledd Llafur Cymru ar 21 Ebrill 2018 cyhoeddodd y byddai'n sefyll lawr fel arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog yn yr hydref.[14] Yn dilyn etholiad Mark Drakeford fel Arweinydd Llafur Cymru, cyhoeddodd y byddai'n ymddiswyddo fel Prif Weinidog ar 11 Rhagfyr 2018. Bywyd personolMae Carwyn yn briod â Lisa ac mae ganddynt ddau o blant. Cyfeiriadau
|