Charles Babbage
Mathemategydd o Loegr a arloesodd yn yr hyn a adnabyddir heddiw fel cyfrifiadureg oedd Charles Babbage, FRS (26 Rhagfyr 1791 –18 Hydref 1871).[1] Roedd ganddo wybodaeth eang iawn o sawl pwnc, gan gynnwys athroniaeth, dyfeisio a pheirianneg. Mae'n fwyaf adnabyddus am ddyfeisio codio cyfrifiadurol. Ystyrir ef gan rai fel un o'r rhai cyntaf i ragweld gallu'r cyfrifiadur ac yn "Dad y Cyfrifiadur",[2] Cynlluniodd y cyfrifiadur mecanyddol cyntaf, mae'n debyg, a arweiniodd ef i greu cynlluniau mwy cynhleth.[1] Mae rhai o'i greadigaethau i'w canfod yn Amgueddfa Gwyddoniaeth Llundain. Crewyd "peiriant gwahaniaethu" (difference engine) drwy ddefnyddio'r cynlluniau a wnaeth dros ganrif yn ôl; gweithiodd y peiriant yn union fel y breuddwydiai Babbage. Mae John Tucker yn y gyfrol Robert Recorde (gol.: Gareth Roberts a Lenny Smith) fodd bynnag, yn dadlau mai'r mathemategydd Cymreig Robert Recorde a osododd rai o'r sylfeini sydd wrth wraidd cysyniadau Babbage.[3] PlentyndodCeir anghytundeb ynglŷn ag union fan geni Babbage, ond yn ôl yr Oxford Dictionary of National Biography mae'n debygol iddo gael ei eni yn 44 Crosby Row, Walworth Road, Llundain.[4] Ceir plac glas ar y mur yn nodi hynny. Roedd yn un o bedwar o blant a anwyd i Benjamin Babbage a Betsy Plumleigh Teape. Gweithio fel partner mewn banc oedd ei dad i gwmni a sefydlodd gyda William Praed, sef: Praed's & Co. yn Stryd y Fflyd, Llundain, yn 1801.[5] Yn 1808, symudodd teulu'r Babbage i dref yn Ne Dyfnaint, Teignmouth. Yn wyth oed fe'i danfonwyd i ysgol yn Alphington, yng nghanol y wlad, ger Exeter. Am gyfnod byr bu'n ddisgybl yn Ysgol King Edward VI, Totnes, ond nid oedd ei iechyd yn arbennig o dda a chafodd diwtoriaid personol i'w addysgu.[6] Yna bu yn Academi Holmwood, Middlesex, ac yn llyfrgell yr ysgol honno y disgynodd mewn cariad gyda mathemateg. Pan oedd oddeutu 16 oed dychwelodd i Totnes.[7] ColegYn Hydref 1810 cyrhaeddodd Goleg y Drindod, Caergrawnt.[8] Roedd wedi datblygu cymaint yn ei fathemateg, ceir gohebiaeth ganddo sy'n nodi ei fod yn siomedig yn safon y gwaith yno.[4] Yn 1812 trosglwyddodd i Peterhouse, Caergrawnt lle daeth i'r brig a derbyniodd radd yn 1814 heb orfod sefyll unrhyw arholiad.[8] Cyfnod heb waithBu'n darlithio yn y Royal Institution mewn seryddiaeth yn 1815, ac fe'i etholwyd yn gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 1816.[9] Ond siomedig oedd y blynyddoedd a ddilynodd hynny, a methodd a chael swydd fel athro yn 1816.[10] Yn 1819, ymwelodd Babbage a Herschel â Pharis a chymdeithas Society of Arcueil, gan gyfarfod mathemategwyr a ffisegwyr blaenllaw'r dydd.[11] Y flwyddyn honno, ymgeisiodd am swydd fel athro Prifysgol Caeredin ond heb lwyddiant.[12][13] Ceisiodd sefydlu cwmni yswiriant, ond heb lwyddiant eto; yn ystod y cyfnod hwn, dibynai'n gyfangwbwl ar daliadau cyson gan ei dad. Gwnaeth ei nyth yn Marylebone, Llundain, a llenwodd hwnnw gyda phlant.[14] Ond yn 1827, bu farw ei dad ac etifeddodd Babbage ystâd enfawr gwerth £100,000, (sy'n gyfwerth a £7.73 miliwn heddiw), gan ei wneud yn ddyn ariannog iawn.[4] Wedi marwolaeth ei wraig, yn yr un flwyddyn (1827) bu farw'i wraig a chymerodd y goes, gan deithio'r Eidal, tra chyflogai nyrsus i warchod ei blant a Herschel i ddatblygu ei syniadau ar y peiriant gwahaniaethu. yn Rhufain, yn Ebrill 1828 clywodd ei fod wedi'i benodi'n Athro ym Mhrifysgol Caergrawnt, ar ei bedwerydd ymgais![15] Y Gymdeithas SeryddolSefydlodd ac arianodd y Gymdeithas Seryddol yn 1820 gyda'r bwriad o leihau cyfrifiadau mathemategol, gan eu gwneud yn fwy hylaw. Enillodd fedal y gymdeithas "for his invention of an engine for calculating mathematical and astronomical tables". Pwrpas creu peiriant gwahaniaethu, meddai Babbage, oedd ymgais i wella'r The Nautical Almanac.[16] Gyda'i gyfaill Thomas Frederick Colby, ymchwiliodd i'r posibilrwydd o greu system bost drwy Brydain, a dyfeisiodd system a alwyd yn Uniform Fourpenny Post a Uniform Penny Post[17] yn 1839 a 1840. Ada LovelaceBu Ada Lovelace yn gohebu gyda Babbage am beth amser, tra chynlluniodd y peiriant gwahaniaethu. Gwelir yn ei nodiadau hi yr hyn a gaiff ei ystyried i fod yr algorithm cyntaf i gael ei weithredu gan beiriant. Oherwydd hyn, ystyrir hi'r 'rhaglenydd' meddalwedd cyntaf.[18][19] DisgynyddionCafodd Charles a Georgiana Babbage wyth o blant,[20] ond 4 yn unig a fu fyw'n oedolion – Benjamin Herschel Babbage, Georgiana Whitmore, Dugald Bromhead Babbage a Henry Prevost.
Cyfeiriadau
|