Cnewyllyn cell
Cnewyllyn (neu'r niwclews) yw'r canolfan rheoli mewn cell, sydd yn rheoli gweithgareddau'r gell. Ceir cnewyllyn mewn celloedd ewcaryot, ond nid mewn celloedd procaryot megis bacteria. Nid oes cnewyllyn mewn celloedd coch y gwaed, i wneud mwy o le i haemoglobin. Mae hyd cnewyllyn rhwng 11 a 22 micrometr fel arfer. Swyddogaeth y cnewyllynMae rhan fwyaf o enynnau'r cell yn cael eu storio yn y cnewyllyn, ar y cromosomau, molecylau DNA mawr. Yn ogystal, ceir proteinau yn y cnewyllyn sy'n rheoli mynegiant genynnau, ac yn trawsgrifio gwybodaeth gennynol i mRNA i gael ei gludo i'r sytoplasm. Trwy'r broses hon, mae'r cnewyllyn yn rheoli'r adweithiau cemegol sy'n digwydd yn y sytoplasm. Yn ogystal, mae'r cnewyllyn yn hollbwysig i'r broses o gellraniad. Hanes darganfyddiadRobert Brown, botanegydd o'r Alban, oedd y gyntaf i wneud arsylliadau meicrosgop o sylwedd o'r cnewyllyn. |