Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd
Sefydlwyd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 3 Ebrill 1987[1] i ailddatblygu hen ardaloedd diwydiannol Caerdydd i greu Bae Caerdydd. AmcanionFe osododd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Nicholas Edwards ddatganiad cenhadaeth CDBC fel:
Y pum prif nodau ac amcanion oedd:
Roedd y CDBC yn bennaf gyfrifol am adeiladu Morglawdd Bae Caerdydd, canolfan siopa a thai ar draws yr hen ddociau yn y 1990au a datblygiad Plas Roald Dahl. LlwyddiannauYn ystod bywyd CDBC, adeiladwyd 14,000,000 troedfedd sgwar (1,300,000 m2) o ddatblygiad nad oedd yn dai a 5,780 o unedau tai. Crëwyd 31,000 o swyddi a buddsoddwyd tua £1.8 biliwn o gyllid preifat. Adferwyd tua 200 acr (81 ha) o dir diffaith.[3] Y Cadeirydd oedd Sir Geoffrey Inkin.[4] Y Prif Weithredwr cyntaf oedd Barry Lane,[5] a olynwyd gan Michael Boyce.[4] Fe ddiddymwyd y CDBC ar 31 Mawrth 2000. Ar 1 Ebrill 2000 gwnaeth Awdurdod Harbwr Caerdydd gymryd drosodd rheolaeth y CDBC o'r morglawdd, y Bae Mewndirol a'r afonydd Taf ac Elai. Fe gyhoeddwyd gwerthusiad o adfywiad Bae Caerdydd yn 2004 a daeth i'r casgliad fod y prosiect wedi "atgyfnerthu safle cystadleuol Caerdydd" a "wedi cyfrannu at welliant anferthol yn ansawdd yr amgylchedd adeiledig". Fodd bynnag, nid oedd y prosiect adfywio wedi llwyddo gymaint o ran creu cyflogaeth. Gorffennodd y gwerthusiad drwy ddweud fod "y canlyniad, er yn gyflawniad mawr a cham anferth ymlaen, yn cwympo'n fyr o'r weledigaeth wreiddiol."[6] Cyfeiriadau
Darllen pellach
Dolenni allanol |