Cwrwgl
Cwch pysgota bychan a syml iawn yw cwrwgl neu corwgl (enw gwrwyaidd; lluosog: cwryglau, cyryglau neu coryglau). Mae cwrwgl yn ysgafn iawn. Roedd yn cael ei ddefnyddio ar afonydd Cymru a Lloegr oesoedd yn ôl ac hyd yn oed cyn cyfnod y Rhufeiniaid. Bellach dim ond ar ychydig o afonydd Cymru y gwelir y cwrwgl heddiw, sef afon Tywi, afon Teifi ac Afon Tâf. Ysgafnder oedd prif rinwedd y corwgl. Roedd hefyd yn hawdd i'w wneud. Gwneir ef o groen anifail a gwiail. Fel arfer, mae dau berson yn pysgota gyda'i gilydd pan yn defnyddio cwrwgl, pob un ohonyn mewn cwrwgl ei hun a defnyddir rhwyd rhwng y ddau i ddal y pysgod. Mae'r curach neu curragh a ddefnyddir yn Iwerddon a'r Alban yn debyg iawn, ond yn fwy. Ardaloedd eraill lle defnyddir badau tebyg yw America (Bullboat yr Indiaidd), Irac (y Gufa), ac India (y Parisal). Hanes a thraddodiadDangosa gerfiadau i gwryglau gael eu defnyddio gan y Brythoniaid. Disgrifiodd Gerallt Gymro gwryglau yng Nghenarth ym 1188.[1] Yn debyg, croen buwch oedd gorchudd gwreiddiol y cwrwgl, ac o hynny ddaeth maint bychan y cwch.[2] Wedi i'r cwrwglwr gymryd ei gwch o'r dŵr, bydd yn ei droi drosodd ar y gwair ac yn rhoi cerrig yn bwysau wrtho. Unwaith i'r cwrwgl sychu, cariodd y pysgotwr y cwch ar ei gefn. O'r traddodiad hwn daw'r dihareb Cymraeg llwyth dyn ei gorrwg.[3] AdeiladuHeddiw, defnyddir cynfas yn amlach na chroen anifail, a'i ddiddosir â thar neu byg. Mae'r cwrwgl arferol yn pwysgo saith i 15 o bwysi, ac yn mesur tua chwe throedfedd o hyd a phedair troedfedd o led. Mae gwaelod y cwch yn wastad, ac mae'r ochrau fel arfer yn llai nag un droedfedd ac yn codi'n berpendicwlar i'r gwaelod. Mae un ben o'r cwrwgl yn bigfain.[3] CyfeiriadauDolenni allanol
|