Cytundeb Maastricht
Arwyddwyd Cytundeb Maastricht (ei henw iawn yw Cytundeb yr Undeb Ewropeaidd) ym Maastricht gan aelod-wladwriaethau y Cymuned Ewropeaidd ym 1992 i greu yr Undeb Ewropeaidd ar ôl trafodaethau ar gyfer undeb ariannol ac undeb gwleidyddiol. O ganlyniad i'r cytundeb cyflwynwyd arian sengl yr UE, yr Ewro a strwythur tair colofn yr Undeb:
Sylfaen y golofn CFSP yw cydweithrediad gwleidyddiol Ewropeaidd (EPC). Colofn JHA sy'n golygu cydweithrediad ar gyfer atal tor-cyfraith, cyfiawnder troseddol, cyfiawnder sifil, noddfa a mewnfudiad. Roedd y Gymuned Ewropeaidd yn canolbwyntio ar faterion economaidd a masnachol. Roedd y Comisiwn Ewropeaidd a'r Llys Cyfiawnder Ewrop yn annibynnol o lywodraethau'r aelod-wladwriaethau ac yn nerthol iawn. Etholwyd Senedd Ewrop gan drigolion y Gymuned Ewropeaidd. Roedd llywodraethau'r aelod-gwladwriaethau yn rhannu pŵer ac ers canol y 1980au yn bennaf drwy bleidlais fwyafrifol a thrwy hynny roedd sefydliadau rhyngwladol yn fwy nerthol na llywodraethau cenedlaethol. Roedd dadl am gyfrifoldebau ar gyfer polisi tramor, milwrol a materion troseddol: roedd rhai eisiau eu trosglwyddo i'r Gymuned Ewropeaidd, ac eraill eisiau i'r llywodraethau cenedlaethol fod yn gyfrifol amdanynt. Fel cyfaddawd cyflwynwyd strwythur tair colofn er mwyn gwahanu'r cyfrifoldebau economaidd a thraddodiadol (megis colofn y Gymuned) i'r materion newydd (sef colofn CFSP a cholofn JHA). Arwyddwyd Cytundeb Maastricht ar 7 Chwefror, 1992 ym Maastricht yn yr Iseldiroedd, lle bu trafodaethau terfynol ym mis Rhagfyr 1991. Daeth i rym ar 1 Tachwedd, 1993 a cafodd ei diwygio sawl gwaith ers hynny.
|