Mewn Ieithyddiaeth mae cywair yn derm ar gyfer y defnydd o amrywiaethau iaith yn ôl y cyd-destunau.
Er enghraifft, mae cyweiriau penodol ar gyfer byd y gyfraith, hysbysebion, siarad gyda'r teulu, ysgrifennu llyfrau plant ac yn y blaen.
Mae Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor yn diffinio Cywaith Iaith fel:
Ystyr cywair iaith (language register), yw’r math o iaith y byddwn yn ei siarad neu’n ei sgrifennu mewn gwahanol sefyllfaoedd e.e. mae’r iaith y byddwch yn ei siarad mewn tafarn neu wrth wylio gêm bêl droed â’ch ffrindiau yn wahanol i’r iaith y byddwch yn ei siarad yn eich gwaith gyda rhywun pwysig
Mae Canllawiau Iaith S4C yn cynghori:
Dylid diffinio’r gynulleidfa darged yn ofalus wrth ystyried y cywair ieithyddol priodol ar gyfer pob rhaglen
Esiamplau o gywair iaith
Tra bod amrywiaeth fawr o gyweiriau iaith a’u defnydd, yn aml mae’r cywair yn newid yn ôl ffurfioldeb y sefyllfa.
Esiamplau o gywair ysgrifenedig
Wrth ysgrifennu Cymraeg dyma rhai elfennau sy’n nodi’r gwahaniaeth rhwng y cywair llenyddol a’r anffurfiol:
Cywair iaith pob dydd
|
Cywair iaith ffurfiol
|
Mae’r plant yn cerdded i’r ysgol
|
Cerdda’r plant i’r ysgol
|
Cafodd y drych ei falu
|
Malwyd y drych
|
Ddarllenodd Siôn ddim y papur
|
Ni ddarllenodd Siôn y papur
|
Ddarllenodd Carol y papur?
|
A ddarllenodd Carol y papur?
|
Paid cerdded ar y glaswellt
|
Na cherddwch ar y glaswellt
|
Gofynnodd os oedd yr aelodau’n fodlon
|
Gofynnodd a oedd yr aelodau’n fodlon
|
Nhw
|
Hwy
|
Gwyn, syml, byr, du, a.y.b.
|
Wen, gwynion, seml, fer, byrion, duon, a.y.b.
|
Y dyn yma/y ferch yma/y bobol yma
|
Hwn/hon/y bobl hyn
|
Os mae, pan mae
|
Os yw, pan yw
|
Ci a cath
|
Ci a chath
|
Ein amser
|
Ein hamser
|
Esiampl o gywair cyfreithiol
Mae Gorchmynion Rheoli Cŵn yn ei gwneud yn drosedd i berson sydd â gofal am gi “i fynd â’r ci neu i ganiatáu i’r ci i fynd neu i aros ar unrhyw dir y mae’r gorchymyn yn berthnasol iddo” (ac eithrio ar briffordd mabwysiedig neu lwybr troed cyhoeddus, sydd wedi’u heithrio’n benodol o dan y gyfraith)
Esiampl o gywair hysbysebu
Eisiau cadw’n ffit? Eisiau arbed arian? Beth am gerdded i’r gwaith? ...Cyfle grêt i ddod i nabod pobol ar y ffordd - ac mae’n fwy o hwyl! Cerdded – da iti a da i dy boced!
Gweler hefyd
- Diglosia - newid o'r naill iaith i'r llall yn ôl y sefyllfa
- Newid cod - defnyddio dwy iaith gyda'i gilydd yn yr un sgwrs
- Cymraeg Clir - prosiect Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor
- Ieithyddiaeth disgrifiadol - disgrifio’n fanwl gywir sut mae iaith yn cael ei defnyddio
- Trawsgreu - cyfieithu marchnata a hysbysebu
- Sosiolect - amrywiaeth iaith sy'n arbennig i ddosbarth cymdeithasol penodol
- Gor-gywiro - Rheolau gramadegol go iawn neu ddychmygol yn cael ei or-defnyddio mewn cyd-destun amhriodol
Ffynonellau