Datganiad Balfour
Llythyr gan Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig Arthur Balfour oedd Datganiad Balfour (dyddiedig 2 Tachwedd 1917) a ddanfonwyd at y Barwn Rothschild, un o arweinwyr y gymuned Iddewig yng ngwledydd Prydain, i'w drosglwyddo i Ffederasiwn Seionaidd Prydain Fawr ac Iwerddon. Roedd y llythyr yn cefnogi cymryd tir oddi wrth y Palesteiniaid a'i roi i greu "cartref cenedlaethol", sut bynnag y dehonglir hynny, ym Mhalesteina i'r Iddewon:
Fodd bynnag, ni ofynnwyd i unrhyw gorff neu arweinwyr Palesteinaidd am eu barn nhw. Nid enwyd y Palesteinaid yn amlwg yn y Datganiad ond cyfeiriwyd atynt yn anuniongyrchol â'r geiriau "existing non-Jewish communities in Palestine". Yr unig hawliau y bwriedid eu rhoi i'r cymunedau hyn oedd hawliau sifil a chrefyddol, nid hawliau gwleidyddol a chenedlaethol. Ar y pryd, Arabiaid oedd tua 94% o boblogaeth Palesteina.[2] Er nad yw'r geiriau "national home" yn y Datganiad yn hollol ddiamwys, fe wnaed eu hystyr yn glir i Chaim Weizmann, llywydd Sefydliad Seionyddol y Byd, mewn cinio preifat yng nghartref Balfour ym 1922, gan Lloyd George, Arthur Balfour, a Winston Churchill, yr Ysgrifennydd Gwladol dros y Trefedigaethau. Ystyr "Jewish national home" yn ôl y triwyr hyn oedd "an eventual Jewish state" a dyna a fuasai'r ystyr o'r dechrau. Llwyddodd Lloyd George i argyhoeddi Weizmann na fyddai Prydain byth yn caniatáu llywodraeth gynrychioladol ym Mhalesteina ac ni wnaeth hynny erioed.[3] Oherwydd hyn gellir ystyried y Datganiad yn garreg sylfaen Gwladwriaeth Israel ac yn sail ffurfiol i'r broses o gymryd tir Palesteina oddi wrth y bobl a oedd eisoes yn byw yno. Cedwir y ddogfen wreiddiol yn y Llyfrgell Brydeinig. Galeri
Cyfeiriadau
Darllen pellach
|