De Affrica (rhanbarth)
Rhanbarth mwyaf deheuol cyfandir yr Affrig yw De Affrica neu Affrica Ddeheuol, sy'n cael ei diffinio yn ôl daearyddiaeth a gwleidyddiaeth. O fewn y rhanbarth ceir nifer o wledydd, yn cynnwys Gweriniaeth De Affrica, Simbabwe, Botswana a Namibia. DaearyddiaethMae tir De Affrica yn amrywio o goedwigoedd a glaswelltiroedd i ddiffeithdir. Mae gan y rhanbarth ardaloedd iseldirol ac arfordirol, a mynyddoedd. Yn nhermau nwyddau naturiol, mae gan yr ardal diemyntau a mwynau megis aur, platinwm ac wraniwm.
|