Dewi Sant
Dewi Sant (bl. 6g; bu farw yn 589 yn ôl Rhigyfarch[1]) yw nawddsant Cymru. Ni wyddom lawer amdano ond mae'n eitha sicr iddo fyw yng Nghymru a'i fod yn chwarter Cymro o leiaf; yn ôl Rhigyfarch, Non oedd ei fam, a dreisiwyd gan Sant - mab pennaeth Ceredigion.[2] Dethlir Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth. Nodir yn y Fuchedd Gymraeg Llyfr Ancr Llanddewibrefi (Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen) ei bregeth olaf, lle dywedodd, "Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf i." Hanes a thraddodiadYn ôl un traddodiad, cafodd ei eni yn Henfynyw ger Aberaeron, ond mae traddodiad arall yn cyfeirio at Gapel Non, gerllaw Eglwys Gadeiriol Tyddewi heddiw. Ei fam oedd y santes Non a'i dad oedd Sant (neu Sandde), brenin Ceredigion. Mae'n eithaf sicr iddo sefydlu ei abaty yn Nhyddewi (yr hen enw oedd Mynyw: Menevia) ac mae cyfeiriad at fynachlog yno mewn llawysgrif Wyddelig o tua'r flwyddyn 800. Enw arall ar y lle yw Glyn Rhosyn, sy'n gamgyfieithiad o'r Lladin vallis rosina sydd, o'i gyfieithu'n gywir, yn golygu cwm corsiog.[angen ffynhonnell] Mae'n demtasiwn i feddwl am y llecyn fel lle tawel, ond allai hynny ddim fod ymhellach oddi wrth y gwir. Roedd yn groesffordd i deithiau i Iwerddon, Cernyw, Llydaw gan arwain i Rufain a'r dwyrain a'r gogledd. Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi ei hun mewn pant ac yn agos i adfeilion Plas yr Esgob. Mae bron pob peth a wyddom am Dewi Sant yn tarddu o'r fuchedd a ysgrifennodd Rhigyfarch tua'r flwyddyn 1100. Gelwir y cyfieithiad Cymraeg Canol o'r Lladin wreiddiol Buchedd Dewi Sant. Gosododd Dewi gyfundrefn lem iawn yn ei fynachlog. Roedd yr oriau gweddïo'n hir, bara a dŵr oedd y bwyd arferol, a'r gwaith yn galed. Rhaid oedd ymrwymo i dlodi hefyd, ond yr oedd pregethu'r efengyl i'r paganiaid yn holl bwysig. Oherwydd ei ffordd o fyw adwaenir Dewi fel "Dewi Ddyfrwr" (Aquaticus), yn ôl un awdur o'r 9g. Ymhlith y traddodiadau niferus am y sant, dywedir iddo gwrdd â Sant Padrig ar Ynys Dewi, ar arfordir Sir Benfro ger Tyddewi. Traddodiad arall yw i'r tir godi pan yn pregethu i dyrfa enfawr yn Llanddewi Brefi gan nad oedd y dorf yn gallu ei weld na'i glywed ac i golomen eistedd ar ei ysgwydd. Yn ôl Rhigyfarch a llawysgrifau Gwyddelig o'r 9g, bu farw Dewi ar y cyntaf o Fawrth - yn y flwyddyn 589[1] - a dyma'r dyddiad y dethlir Gŵyl Ddewi bob blwyddyn. Gweler hefyd
Cyfeiriadau
|