Diego Maradona
Cyn-chwaraewr a rheolwr pêl-droed o'r Ariannin oedd Diego Armando Maradona (30 Hydref 1960 – 25 Tachwedd 2020).[1] Ganwyd yn Lanús, Talaith Buenos Aires. Gyrfa fel chwaraewrYn ystod ei yrfa proffesiynol, fe chwaraeodd Maradona i Boca Juniors, Barcelona, a Napoli. Ymddangosodd 91 o weithiau dros dîm cenedlaethol Yr Ariannin a sgoriod 34 o goliau. Roedd yn rhan o'r tîm a enillodd Gwpan y Byd 1986 pan gurwyd Gorllewin yr Almaen yn y rownd derfynol. Cafodd ei wahardd o bêl-droed am 15 mis am fethu prawf cocên yn 1991, ac fe'i danfonwyd adref Gwpan y Byd 1994 am ddefnyddio'r cyffur ephedrine. Gyrfa fel rheolwrRoedd yn reolwr Yr Ariannin yn mis Tachwedd 2008 hyd Gorffennaf 2010. Daeth yn reolwr Al Wasl yn mis Mai 2010. Cyfeiriadau
|