Dinas Sunderland
Bwrdeistref fetropolitan yn Tyne a Wear, Gogledd-ddwyrain Lloegr, yw Dinas Sunderland (Saesneg: City of Sunderland). Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 137 km², gyda 277,705 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Dde Tyneside i'r gogledd, Bwrdeistref Fetropolitan Gateshead i'r gorllewin, Swydd Durham i'r de, a Môr y Gogledd i'r dwyrain. Ffurfiwyd y fwrdeistref dan yr enw "Bwrdeistref Fetropolitan Sunderland" (Metropolitan Borough of Sunderland) dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974, ond fe'i hailenwyd pan gafodd Sunderland statws dinas ym 1992. Mae gan y fwrdeistref dim ond tri phlwyf sifil, ond mae'r rhan fwyaf ohoni yn ddi-blwyf. Mae ei phencadlys yn ninas Sunderland ei hun. Mae aneddiadau eraill yn cynnwys trefi Hetton-le-Hole, Houghton-le-Spring a Washington. Cyfeiriadau
|