Donald Fear
Athro hanes a gwleidyddiaeth o Loegr oedd Donald Fear (ganwyd Donald James Fear yn 1962) sy’n byw yn Telford, fwyaf adnabyddus am ddod i fod y chweched i ennill £1,000,000 ar Who Wants to Be a Millionaire? yn 2020. Bywyd cynnar a gyrfa dysguEf yw’r trydydd o bedwar o blant. Ganwyd ef ym Mryste ond symudodd i Fanceinion fel plentyn ifanc. Symudodd ei deulu pan oedd yn ei arddegau i Gernyw ble roedd Charles Causley yn un o’i athrawon.[1] Astudiodd hanes a gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, ble enillodd y Wobr Athro Glanmor Williams ar gyfer Hanes a’r Wobr Goffa John Rees. Wedyn dysgodd mewn nifer o ysgolion yn Telford ac Amwythig [2] cyn dod i fod yn Bennaeth Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yn Ysgol Ramadeg Haberdashers’ Adams, Newport, Swydd Amwythig.[3] Mae’n briod gyda phedwar o blant. Who Wants to Be a Millionaire?Ym Medi 2020 aeth ar y rhaglen teledu Who Wants to Be a Millionaire? ble ddaeth i fod y chweched person i ennill £1,000,000 am 14 o flynyddoedd.[4][5][6] Roedd ei ymddangosiad yn hynod oherwydd defnyddiodd ond un ‘rhaff achub’ i gyrraedd y miliwn tra roedd pawb arall a gyrhaeddodd y miliwn wedi defnyddio pob un. Ef yw brawd Davyth Fear a enillodd £500,000 y flwyddyn flaenorol.[7][8] Mae’r camp teuluol hwn heb ei ail yn hanes y rhaglen.[9] Yn y cyhoeddusrwydd cyn darlledu’r rhaglen, dywedodd Jeremy Clarkson ei fod yn credu mai Fear oedd yr ‘ymgeisydd gorau yn hanes y rhaglen’.[10] Cynlluniodd Fear i roi £700,000 o'i wobr i'w deulu, a defnyddio'r £300,000 yn weddil ar "ymddeoliad cyfforddus".[7][11] Yn syth ar ôl ennill y jacpot, aeth ef a'i wraig ar wyliau carafan i Whitley Bay i ddathlu.[8] Gofynnodd cwestiwn £1,000,000 Fear pa un o bedwar morleidr fu farw oddi ar arfordir Gogledd Carolina yn 1718. Atebodd yn gywir "Blackbeard" wrth gofio cwrs hanes a gynlluniodd 8 mlynedd cyn y sioe.[11][12] Cafodd Fear ei longyfarch gan ddisgyblion Haberdashers' Adams.[7] Bywyd personolMae’n gystadleuydd cwis a chwaraewr tenis bwrdd brwdfrydig.[13][14] Priododd Debra Churchill, nyrs gynecoleg,[8] yn 1987 ac mae ganddynt bedwar o blant - Cat, Ali, Izzy a Chris.[15] Yn 2022 ymddangosodd mewn tîm efo'i frawd ar y rhaglen deledu 'Eggheads'. [16] Cyfeiriadau
Dolenni allanol |