Edward Richard
Bardd ac ysgolhaig o Geredigion oedd Edward Richard (mis Mawrth 1714 – 4 Mawrth 1777). Mae'n adnabyddus yn bennaf am ei ddwy fugeilgerdd.[1][2] BywgraffiadFe'i ganed yn Ystrad Meurig, uwchben Dyffryn Teifi, ac yno y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Roedd yn fab i deiliwr a thafarnwr. Cafodd ei fam Gwenllian ddylanwad mawr ar y bardd. Roedd ganddo un frawd, Abraham. Cafodd ei addysg yn yr ieithoedd Groeg a Lladin ganddo ar ôl iddo raddio o Brifysgol Rhydychen a dychwelyd i Ystrad Meurig. Aeth Edward i Ysgol Ramadeg Caerfyrddin lle cafodd ei drwytho yn y clasuron. Pan ddychwelodd i'w fro yn 1736 agorodd ysgol elfennol ac yno y bu am weddill ei oes yn athro ysgol a myfyriwr y clasuron Groeg a Lladin. Ymhlith ei ddisgyblion oedd John Williams, mab William Williams Pantycelyn, Dafydd Ionawr, meibion Lewis Morris ac Ieuan Fardd. Gwaith llenyddolDim on dyrnaid o gerddi Edward Richard a gyhoeddwyd ond mae eu hansawdd yn uchel (credir fod nifer o gerddi eraill, yn ei lawysgrif ei hun, wedi diflannu). Ceir dwy gân werinol am ei fro, emyn, cyfieithiad o faled gan John Gay ac englynion ar farwolaeth plentyn. Ei waith pwysicaf yw'r ddwy fugeilgerdd a gyhoeddwyd yn 1765 a 1776. Mae dyled Edward Richard i'r bardd Groeg Theocritus yn amlwg, ond nid efelychiaid arwynebol ydynt. Mae'r gyntaf yn coffhau ei fam Gwenllian a'r ail yn ymddiddan rhwng dau fugail, Gruffudd a Meurig, sy'n cyfuno elfennau personol a chymdeithasol. Addfwynder myfyrgar yw prif nodwedd ei waith, ynghyd â naturioldeb a glendid arddull. Gwelir hyn yn ei ddau englyn syml ond trawiadol ar farwolaeth plentyn, er enghraifft. Dyma'r cyntaf:
LlyfryddiaethGwaith y barddCeir testunau o'r bugeilgerddi a cherddi eraill yn:
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
|