Eleanor o Aquitaine
Roedd Eleanor o Aquitaine (1122 – 1 Ebrill 1204 (neu 31 Mawrth 1204)) yn frenhines yn ei thro i Louis VII, brenin Ffrainc, a Harri Plantagenet, brenin Lloegr a Comte d'Anjou, sef Harri II, brenin Lloegr. Petronilla, Iarlles Vermandois, oedd ei chwaer iau. Alia Aenor neu Aliaenor yw ei henw go iawn, ond fe'i hadnabyddir fel Eleanor o Aquitaine. Roedd Eleanor yn wraig i Louis VII rhwng 1137 a 1152. Roedd hi'n wraig ar ôl hynny i Harri II rhwng 1153 a marwolaeth Harri yn 1189, ond cadwodd hi dan arestiad ar ôl gwrthryfel ym 1173. Trwy ei phriodasau dynastig daeth yr ymerodraeth Angevin i fodolaeth. Eleanor oedd mam y brenhinoedd Rhisiart I a John ar Loegr. Pan ddaliwyd Rhisiart yn wystl yn yr Almaen, cododd bridwerth i'w ryddhau. Roedd Eleanor yn adnabyddus fel gwraig ddiwylliedig a noddai feirdd a llenorion fel y trwbadŵr Bernard de Ventadour. |