Epsom
Tref fach yng ngogledd Surrey, De-ddwyrain Lloegr, sy'n enwog am ei chae rasio a'i hen ffynnon swlffwr, yw Epsom.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Epsom ac Ewell. Saif tua 16 milltir (26 km) i'r de-dde-orllewin o Charing Cross, yn Llundain. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Epsom boblogaeth o 31,474.[2] Cynhelir y Derby bob blwyddyn ar y twyndir i'r gorllewin y dref. Yn ras y Derby 1913, taflodd y swffragét Emily Davison ei hunan dan geffyl Siôr V gan ladd ei hunan mewn protest yn erbyn diffyg pleidlais i ferched. Mae'r dref wedi ymddangos yn rhestr deg uchaf o lefydd ble mae safon bywyd yn uchel (Halifax Quality of Life Survey 2011).[3] Adeiladau a chofadeiladau
Enwogion
Cyfeiriadau
Dinasoedd a threfi
Trefi |