Ffosil
Gweddillion creadur byw, neu blanhigyn, o'r gorffennol pell wedi troi'n garreg (carreg waddodol fel rheol) ydy ffosil. Ffosilota ydy'r weithred o gasglu ffosiliau, a defnyddiwyd y gair hwn yn gyntaf yn 1755 mewn llythyr gan rai o Forrisiaid Môn.[1] Mae casglu ac astudio ffosilau ar hyd yr oesoedd (neu'r raddfa amser ddaearegol) yn elfen gyffrous a hanfodol o baleontoleg: sut a pha bryd y cawsant eu ffurfio a'r berthynas rhyngddynt a'r creigiau o'u cwmpas a sut y maent yn perthyn i'w gilydd, drwy dacsonmoeg. Yn fras gellir dweud fod pob ffosil o leiaf 10,000 o flynyddoedd oed.[2] Mae eu hamrediad felly'n ymestyn o'r ienengaf i'r hynaf yn yr is-raniadau amser canlynol: o'r gyfres (neu epoc) ddaearegol Holosen hyd at yr eon Archeaidd - sef 3.48 biliwn o flynyddoedd yn ôl,[3] Mae maint ffosiliau'n amrywio'n fawr, felly hefyd maint pethau sy'n fyw heddiw. Gallant amrywio o facteria ungell, un micrometer mewn diametr i ddinosor neu goeden anferthol sy'n pwyso sawl tunnell. Rhan yn unig o'r creadur sydd wedi marw sy'n cael ei gadw ar ffurf ffosil fel arfer: fel arfer y rhan a fineraleiddiwyd yn ystod ei fywyd e.e. dannedd caled neu esgyrn anifeiliaid asgwrn-cefn neu ysgerbwd allanol, calchog anifeiliaid di-asgwrn cefn. Ceir hefyd ffosiliau o olion wedi'u gadael gan yr anifail ei hun e.e. olion traed neu garthion (tomfeini). Cyfeiriadau
|