Francis Drake
Fforiwr a morwr o Sais oedd Syr Francis Drake (tua 1540 – 28 Ionawr 1596).[1] Bywyd cynnar a theuluCafodd ei eni yn Tavistock, Dyfnaint. Ei dad oedd Edmund Drake, ond nid yw unrhyw un yn siwr o enw cyntaf ei fam er tybir mai Mary Mylawye ydoedd. Priododd Mary Newman ym 1569; bu farw Mary ym 1581. Priododd Elizabeth Sydenham ym 1585. Prynodd Drake ei gartref, Abaty Buckland, ym 1580. Teithiau i'r CaribîTeithiodd Drake i'r Caribî pedwar gwaith, y tro cyntaf gyda'i gyfyrder John Hawkins yn 1567. Y fordaith o amgylch y byd (1577–80)Yn 1577 hwyliodd Drake i ynysoedd Cabo Verde oddi ar arfordir Gorllewin Affrica, ac oddi yno i dde'r Iwerydd a thrwy Gulfor Magellan. Fforiodd ar hyd arfordir Califfornia, gan hawlio'r tir i Loegr, a cheisiodd hwilio am Dramwyfa'r Gogledd Orllewin. Teithiodd i'r gorllewin, ar draws y Cefnfor Tawel, trwy India'r Dwyrain ac ar draws Cefnfor India, o amgylch Penrhyn Gobaith Da ac yn ôl i Loegr. Drake oedd y Sais cyntaf, a'r ail forlywydd o unrhyw wlad, i hwylio o amgylch y byd, a phan dychwelodd i Loegr cafodd ei urddo'n farchog gan y Frenhies Elisabeth ar fwrdd ei long, y Golden Hind. Cyrchoedd yn erbyn SbaenYn ystod y 1580au, arweiniodd Drake sawl cyrch ar longau Sbaen. Yn 1587 ymosododd ar longau Sbaenaidd ym Mae Cádiz, mewn brwydr a elwir "llosgi barf Brenin Sbaen". Ei fordaith olafBu farw o ddysentri ger Puerto Bello, Panama. Cyfeiriadau
|