Gareth Llewellyn
Mae Gareth Llewellyn (ganwyd 24 Chwefror 1969 ym Mhen-y-bont ar Ogwr) yn chwaraewr Rygbi'r Undeb a enillodd 92 o gapaiau dros Gymru fel clo. Mae Llewellyn wedi chwarae rygbi dros glybiau Gastell Nedd, Harlequins, Y Gweilch a Narbonne, ac ymunodd â Bristol Shoguns ar ddechrau tymor 2005-6. Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn y Crysau Duon yn 1989 ac aeth yn ei flaen i ennill 92 o gapiau, gan guro'r record o 87 a ddelid gan Neil Jenkins yn y gêm brawf yn erbyn yr Ariannin ar 12 Mehefin 2004. Parhaodd y record yma nes i Gareth Thomas ennill ei 93eg cap yn 2007. Bu'n gapten Cymru saith gwaith, a chwaraeodd mewn tair Cwpan y Byd - 1995, 1999 a 2003. Chwaraeodd rygbi rhyngwladol mewn tri degawd gwahanol a than wyth hyfforddwr gwahanol. Ar ôl i Gymru ennill Y Gamp Lawn yn 2005, cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol. Mae ei frawd, Glyn Llewellyn, hefyd wedi chwarae rygbi dros Gymru. |