Gary Speed
Rheolwr a phêl-droediwr Cymreig yn chwarae yng nghanol y cae oedd Gary Andrew Speed (8 Medi 1969 – 27 Tachwedd 2011). Bu'n gapten tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru hyd nes iddo ymddeol o'r gêm ryngwladol yn 2004.[1] Ganed ef ym mhentref Mancot, Sir y Fflint, ac addysgwyd ef yn Ysgol Uwchradd Penarlâg. Dechreuodd ei yrfa fel pêl-droediwr gyda Leeds United, yna symudodd i Everton ym 1996 am £5.5 miliwn. Daeth yn gapten Everton, ond symudodd i Newcastle United ym 1998. Symudodd eto i Bolton Wanderers a Sheffield United yn 2008. Penodwyd ef yn rheolwr Sheffield United ym mis Awst 2010 hyd Rhagfyr 2010. Ef oedd Prif Hyfforddwr Tîm Cenedlaethol Cymru o Ragfyr 2010 tan ei farwolaeth. Bu farw Speed yn ei gartref ym mhentref Huntington, Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr. Ar ddiwrnod ei farwolaeth, mynegodd cyfeillion a chydchwaraewyr iddo eu cydymdeimlad, ac yn eu plith: Robbie Savage, Ryan Giggs, Simon Grayson, Alan Shearer a John Hartson. Cynhaliwyd munud o dawelwch yn y gêm bêl-droed rhwng C.P.D. Abertawe ac Aston Villa F.C. ac fel arwydd o barch tuag ato, dechreuodd y dorf gymeradwyo.
Cyfeiriadau
|