George Lort Phillips
Roedd George Lort Phillips (4 Gorffennaf 1811 – 30 Hydref, 1866) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Benfro rhwng 1861 a 1866 [1]. Bywyd PersonolGanwyd Phillips yn Stokeham, Dyfnaint yn fab i John Lort Phillips, ac Agusta Ilburt ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Harrow a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Priododd Isabella Georgina unig ferch John Hensleigh Allen, Creselly (AS Penfro 1818 - 1826). Ni fu iddynt blant[2]. GyrfaAr farwolaeth Syr William Barlow ym 1851 etifeddodd Phillips ystadau Lawrenny, Rhosfarced a Nash. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Benfro ym 1843 a bu’n Ynad Heddwch ar fainc Sir Benfro. Gyrfa WleidyddolYm 1861 dyrchafwyd Aelod Seneddol Sir Benfro, yr Is-iarll Emlyn, i Dŷ’r Arglwyddi ar farwolaeth ei dad, Iarll Cawdor, a bu isetholiad. Safodd y Cyrnol Hugh Owen Owen ar ran y Blaid Ryddfrydol a Phillips ar ran y Ceidwadwyr. Enillwyd y sedd yn weddol gyffyrddus gan Phillips:
Cadwodd y sedd yn ddiwrthwynebiad yn etholiad cyffredinol 1865 a’i dal hyd ei farwolaeth ym 1866. MarwolaethBu farw wedi damwain wrth hela yn ei gartref, Castell Lawrenny, yn 55 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent eglwys Hwlffordd[3]. Cyfeiriadau
|