Giacomo Leopardi
Bardd, athronydd, ysgrifwr, ac ieithegwr o'r Eidal oedd y Conte Giacomo Leopardi (29 Mehefin 1798 – 14 Mehefin 1837) sydd yn nodedig am ei farddoniaeth delynegol odidog a'i draethodau ysgolheigaidd ac athronyddol unigryw. Ganed i deulu bonheddig yn Recanati ym Marche, a oedd dan reolaeth Taleithiau'r Babaeth. Bachgen hynod o ddeallus ac henffel ydoedd, a chafodd ei lesteirio gan blwyfoldeb gwledig ei amgylchedd a diffyg adnoddau ei diwtoriaid. Gwaethaf oll, bu ei rieni yn ddideimlad i anableddau corfforol Giacomo ac yn esgeulus o'i alluoedd. Erbyn 16 oed roedd wedi dysgu Groeg, Lladin, a sawl iaith arall ar liwt ei hun, ysgrifennu dwy drasiedi a nifer o gerddi yn Eidaleg, cyfieithu sawl un o'r clasuron, a chyflawni nifer o draethodau esboniadol yn brawf o'i ddoniau ysgolheigaidd. Gwaethygodd ei afiechyd o ganlyniad i'w astudiaethau llethol, a dioddefai nam ar ei olwg. Aeth yn ddall mewn un llygad, a datblygodd gefn crwm oherwydd clefyd serebro-sbinol.[1] Cafodd berthynas dda gyda'i frawd a chwaer, ond ni chafodd ei drin yn annwyl gan ei rieni, hyd yn oed yn ei byliau o salwch. Mynegai ei obeithion a'i chwerwder fel ei gilydd yn ei farddoniaeth, er enghraifft "Appressamento della morte", penillion terza rima ar batrwm Francesco Petrarca a Dante Alighieri a ysgrifennwyd ganddo ym 1816. Yn niwedd ei arddegau, cafodd Leopardi ddau brofiad anhapus a sicrhaodd ei dröedigaeth at besimistiaeth. Ym 1817 dioddefodd siom ei gariad annychweledig tuag at ei gyfnither Gertrude Cassi, a oedd yn briod, yr honno a fyddai'n destun ei ddyddiadur Diario d'amore a'r alargan "Il primo amore". Ym 1818, bu farw Terese Fattorini, merch fach y gyrrwr coetsis, trasiedi a fyddai'n ysbrydoli un o'i delynegion enwocaf, "A Silvia". Codwyd ei galon braidd ym 1818 pan gafodd ei ymweld gan yr ysgolhaig clasurol a gwladgarwr Pietro Giordani, a'i anogodd i ddianc rhag ei deulu. O'r diwedd, aeth Leopardi i Rufain am ychydig o fisoedd ym 1822–23, ond nid taith bleserus oedd honno. Dychwelodd i'w sefyllfa anhapus yn Recanati. Cyhoeddwyd ei gasgliad enwog o farddoniaeth, Canzoni, ym 1824. Y flwyddyn olynol, derbyniodd gynnig i olygu gweithiau Cicero ym Milan. Treuliodd y blynyddoedd wedyn yn teithio'n ôl ac ymlaen rhwng Bologna, Recanati, Pisa, a Fflorens. Cyhoeddwyd y casgliad o farddoniaeth Versi (1826) a'r traethiad athronyddol Operette morali (1827) yn ystod y cyfnod hwn. Bu'n rhaid iddo ddychwelyd i Recanati o 1828 i 1830 oherwydd diffyg arian, cyn iddo ddianc i Fflorens unwaith eto gyda chymorth ei gyfeillion. Yno cyhoeddodd gasgliad barddonol arall, I canti (1831). Ysbrydolwyd rhai o'i delynegion tristaf gan ei gariad am Fanny Targioni-Tozzetti o Fflorens. Magodd gyfeillgarwch agos â dyn ifanc o'r enw Antonio Ranieri, a oedd yn alltud o Napoli. O'r diwedd ymsefydlodd Leopardi yn Napoli, Teyrnas y Ddwy Sisili, ym 1833. Yno ysgrifennai'r gerdd hir "Ginestra" (1836). Bu farw yn ystod epidemig y geri marwol yn Napoli yn 38 oed. Bywyd cynnar a theulu (1798–1818)Teulu a magwraethGaned Giacomo Taldegardo Francesco di Sales Saverio Pietro Leopardi ar 29 Mehefin 1798 yn Recanati yn fab i'r Conte Monaldo Leopardi (1776–1847) a'r Contessa Adelaide Antici Leopardi (1778–1857), a briodasant ym 1797. Tref fynyddig yw Recanati a leolir yn rhanbarth Marche, yn nwyrain canolbarth yr Eidal, a oedd ar y pryd dan reolaeth y Babaeth. Dwy flynedd cyn ei eni, goresgynnwyd Taleithiau'r Babaeth o'r gogledd gan luoedd Napoléon yn ystod Rhyfeloedd Chwyldroadol Ffrainc, a newidiodd llywodraeth Recanati sawl gwaith yn y cyfnod 1796–98. Ar un pryd, gyrrwyd y Ffrancod ymaith gan frigandiaid lleol, a phenodwyd Monaldo Leopardi yn llywodraethwr dros dro y dref.[2] Dyn dysgedig a duwiol oedd y Conte Monaldo, a fyddai'n cynnal cyfarfodydd yn ei blasty, Palazzo Leopardi, o "I Disuguali Placidi", hen academi farddol Recanati a ailsefydlwyd ganddo.[3] Er gwaethaf ei ddysg, ei bendefigaeth, a'i statws uchel yn y gymuned, bu'r Conte Monaldo yn ddi-glem o ran cyllid y teulu, ac oherwydd ei ddyledion cynyddol penderfynodd y Contessa Adelaide gymryd rheolaeth lwyr ar faterion ariannol a'r aelwyd rhyw chwe blynedd i mewn i'r briodas.[4] Giacomo oedd y cyntaf o ddeg plentyn a anwyd i'r Contessa Adelaide. Dim ond efe a phedwar arall a fyddai'n cyrraedd llawn oed: ei frodyr Carlo (1799–1878), Luigi (1804–28), a Pierfrancesco (1813–51), a'r chwaer Paolina (1800–69). Cawsant eu magu mewn cartref goludog, ond gormesol, yn Palazzo Leopardi. Ni chawsant ganiatâd i ddysgu dawnsio, marchogaeth, cleddyfa, na chrefftau arfau, oherwydd nad oedd y rhain yn gydnaws ag addysg Gristnogol.[5] Ni fyddai'r plant yn teithio y tu hwnt i Recanati nac yn cymdeithasu'n aml â phobl y tu allan i Palazzo Leopardi. Cwmni parhaol Giacomo yn ystod ei blentyndod oedd ei frawd Carlo a'i chwaer Paolina, a byddai'r tri ohonynt yn manteisio ar lyfrgell enfawr eu tad, a oedd yn cynnwys mwy na 15,000 o lyfrau a gasglwyd ganddo, nifer ohonynt wedi eu prynu o'r tai crefyddol a ddiddymwyd dan lywodraeth y Ffrancod.[6] AddysgCafodd Giacomo ei wersi cyntaf yn yr wyddor a'r holwyddoreg Gatholig oddi ar gaplan y teulu, Don Vincenzo Diotallevi. Derbyniodd ragor o addysg dan diwtoriaeth offeiriaid teuluaidd eraill: Don Giuseppe Torres, Abate Sebastiano Sanchini, a gwersi Ffrangeg oddi ar l'Abbé Borne. Erbyn 12 oed, roedd ganddo grap ar Ladin, rhethreg, diwinyddiaeth, a ffiseg.[7] Sail ei addysg oedd cwricwlwm yr Iesuwyr, a oedd yn cyfuno athroniaeth a gwyddoniaeth ac yn cynnwys awduron a oedd yn groes i ddysgeidiaeth yr Eglwys Gatholig, er mwyn eu gwrthbrofi o safbwynt dogmataidd. Daeth Giacomo yn gyfarwydd felly â meddylwyr arloesol ac anuniongred yr 17g a'r 18g megis Spinoza, Hobbes, Maupertius, Rousseau, Bayle, Helvétius, a Voltaire, yn ogystal â gwaith gwyddonwyr yr Oleuedigaeth a dderbyniwyd gan yr Eglwys Gatholig, er enghraifft François Jacquier, Aimé-Henri Paulian, Jean Saury, a Rudjer Boscovic.[8] Yn 14 oed, roedd yn amlwg bod Giacomo wedi dysgu popeth y gallai oddi ar ei feistri, ac aeth ati felly i barhau â'i addysg ar liwt ei hun yn llyfrgell Palazzo Leopardi.[7] Dysgodd yr iaith Roeg iddo'i hun o fewn mis, a darllenai y clasuron yn frwd.[9] Er ceidwadaeth a duwioldeb y Conte Monaldo, dangosodd ddigon o barch at chwilfrydedd a llyfrgarwch ei fab hynaf i sicrhau gollyngiad eglwysig iddo yn 15 oed, gan roi caniatâd i Giacomo ddarllen y llyfrau a waharddwyd gan yr Eglwys Gatholig.[6] Gweithiau cynnarCyfansoddodd Giacomo ei soned gyntaf, "La morte di Ettore", yn 11 oed, ac yn y cyfnod o 1809 i 1812, ar drothwy ei lasoed, ysgrifennodd barodi o'r Ars Poetica gan Horas, dwy drasiedi o feddwl ei hun, a chyfieithiad o bryddestau Horas (llyfrau I a II).[10] Canolbwyntiodd yn enwedig ar ieitheg yn ystod ei arddegau, gan mynd i'r afael â'r clasuron o safbwynt ysgolheigaidd, a dysgodd hefyd yr ieithoedd Hebraeg, ac o bosib Sbaeneg, at ddiben ei astudiaethau ieithyddol.[6] IechydDatblygodd Giacomo gefnwyrni yn ei ieuenctid, a fyddai'n rhoi iddo gefn crwm a nam ar y thoracs am weddill ei oes. Tybiai ei frawd Carlo i'w tad ddymuno i Giacomo gael ei ordeinio'n offeiriad oherwydd byddai mantell y glogyn eglwysig yn cuddio'i gefn crwm.[11] Y dröedigaeth lenyddolYn 16 i 18 oed, trodd Giacomo brif sylw ei astudiaethau o ysgolheictod i farddoniaeth.[12] Yn ei arddegau, dioddefai Giacomo yr achosion cyntaf o'i gariad ffôl enwog. Cadwodd "ddyddiadur serch" o'i feddyliau am y Contessa Geltrude Lazzari, ac mae'n bosib i'w gerdd "Nerina" gael ei hysbrydoli gan ferch o'r enw Maria Belardinelli. Bu farw Terese Fattorini, merch y gyrrwr coetshis, o'r diciâu, a rhyw ddeng mlynedd yn ddiweddarach ysgrifennai Giacomo y gerdd "A Silvia" er cof amdani. Ei gyfeillgarwch â Giordani a'i dröedigaeth (1818–22)Yn ei ieuenctid, ceisiodd Giacomo wneud ei ffordd ym myd llên drwy gysylltu â dynion hyddysg. Wedi cyfnod o ohebiaeth, daeth yr Abate Pietro Giordani i Recanati ym Medi 1818 i gwrdd â'r ysgolhaig ifanc. Hwn oedd y tro cyntaf i Giacomo fod ar ben ei hun mewn cwmni rhywun y tu allan i Palazzo Leopardi, ac aeth ar wibdaith undydd gyda Giordani i Macerata. Wedi'r daith honno, ymddengys o safbwynt ei deulu fel petai Giacomo wedi newid, ac mae'n amlwg i daliadau rhyddfrydol a gwrthglerigol Giordani gael dylanwad mawr arno.[13] Ar 1 Ionawr 1819, cyhoeddwyd y ddau canto gwladgarol cyntaf gan Leopardi: "All' Italia" a "Sopra il monumento di Dante".[14] Ar ôl cael ei ysbrydoli gan ymweliad Giordani i blymio i'r ceryntau gwladgarol a oedd ar y pryd yn ysgubo'r Eidal, ysgrifennodd Leopardi at y Conte Saverio Broglio d'Ajano yn gofyn am gymorth i gael pasbort i deithio i Deyrnas Lombardo-Veneto.[15] Mewn achos nodweddiadol o wastrodaeth ei dad arno, cafodd y pasbort ei ddwyn gan y Conte Monaldo Leopardi, a oedd yn anhapus bod ei fab yn trefnu i adael Recanati heb roi gwybod iddo.[16] Erbyn diwedd y flwyddyn, byddai'n profi cyfnod dwys a elwir yn "dröedigaeth athronyddol". Gwrthododd wisgo mwyach fel abbé, yr arfer y gorfodai'r Conte Monaldo ar ei feibion ers eu blynyddoedd cynnar, a rhodd wybod i'w dad na fyned i mewn i'r offeiriadaeth. Ar yr un pryd ag yr haerodd ei annibyniaeth, amddifadwyd ef o'i olwg gan byliau o offthalmia, a bu'n rhai iddo roi'r gorau i'w ddarllen am gyfnod. Wrth gael ei orffwyllo gan ei feddyliau a'i emosiynau ei hun, cafodd ei amheuon crefyddol cyntaf a theimlad cryf o anobaith, ac o'r diwedd fe syrthiodd i'r felan.[17] Yn ei amserau iachach, parhaodd Leopardi i ysgrifennu, gan ganolbwyntio ar ei drydedd gerdd wladgarol, "Ad Angelo Mai", sydd yn defnyddio ailddarganfod un o brif weithiau Cicero, De re publica, yn Llyfrgell y Fatican fel ei stori.[18] Ar y cychwyn, cafodd cyhoeddi'r gwaith ei atal gan y Conte Monaldo, ond o'r diwedd rhodd ganiatâd i'r honno a thair cerdd arall gan ei fab gael eu hargraffu yn Bologna gan Pietro Brighenti yng Ngorffennaf 1820.[19] Y daith i Rufain (1822–23)O'r diwedd, gadawodd Leopardi ei dref enedigol ar 17 Tachwedd 1822 gyda'i ewythr y Marchese Carlo Antici a'i deulu, a oedd ar eu ffordd yn ôl i Rufain. Er taw hwn oedd y tro cyntaf iddo deithio y tu hwnt i Recanati dros nos, ni ddangosodd unrhyw ddiddordeb mewn arsylwi ar y wlad o ffenestr y goets, ac yn lle hynny treuliodd y siwrnai yn darllen ac yn ysgrifennu.[20] Treuliodd bum mis yn Rhufain; nid cyfnod hapus oedd hwnnw i Leopardi:
Mynychodd blasty ei ewythr, Palazzo Antici, am ei fwyd, a daliodd i ddibynnu ar ei dad am arian poced. Methodd â chael ei dderbyn yn y salonau a chylchoedd diwylliedig Rhufain.[22] Gwelodd taw dim ond fel ysgolhaig, yn hytrach nag fel llenor, y gallai wneud cydnabyddwyr. Archaeoleg oedd y prif ddiddordeb deallusol yn y ddinas hynafol hon, felly bu'n rhaid iddo dynnu ar ei hen efrydiau ieithegol er mwyn gwneud argraff ar ddynion dysgedig gan gynnwys yr hanesydd Barthold Georg Niebuhr.[23] Cynghorwyd iddo gymryd swydd eglwysig o ryw fath er mwyn ennill ffafr y Babaeth, ond gwrthododd wisgo dillad yr abbé fel y gorfodwyd iddo yn Palazzo Leopardi, ac felly ni fyddai'n derbyn nawdd y Cardinal Ercole Consalvi, Ysgrifennydd y Wladwriaeth.[24] Yn ôl Leopardi, yr unig brofiad pleserus iddo yn Rhufain oedd ei ymweliad â bedd y bardd Torquato Tasso, yn Chwefror 1823.[25] Dychwelodd i Recanati yn niwedd Ebrill.[26] Recanati (1823–25)Er iddo ddychwelyd i'w sefyllfa anhapus yn Palazzo Leopardi, ac er gwaethaf siom ei gyfnod yn Rhufain, daliodd Leopardi at ei lenydda yn Recanati. Cwympodd i ddiflastod ingol, ond nid cyfnod diffrwyth oedd hwn. Cychwynnodd ar ei Operette Morali, gorchwyl sydd yn nodi ei drobwynt o farddoniaeth i ryddiaith ac athroniaeth. Cyfansoddodd un gerdd newydd yn unig yn y flwyddyn 1823, sef "Alla sua donna",[27] ond y flwyddyn olynol cyhoeddwyd ei gasgliad enwog o farddoniaeth, Canzoni. Gorffennodd yr Operette Morali, un o'i weithiau amlycaf, yn nhymor y gwanwyn 1825.[28] Mae'r casgliad hwn, a fyddai'n cael ei gyhoeddi ym 1827, yn cynnwys 24 o ysgrifau ac ymgomion, yn null Lucianus.[29] Dyma hefyd y cyfnod iddo gofleidio pesimistiaeth fel ei brif olwg ar y byd. Daeth i weld bywyd ar y ddaear hon fel cyfuniad parhaus o alar a diflastod, athroniaeth a oedd yn debyg i boenydio, hiraeth, a syrffed y Rhamantwyr Almaenig (Weltschmerz) a Ffrengig (mal du siècle) yn nechrau'r 19g.[30] Milan a Bologna (1825–26)Ar 17 Gorffennaf 1825 cychwynnodd Leopardi ar daith i Filan, ar wahoddiad y cyhoeddwr Antonio Stella, i ymgymryd ag argraffiad cyflawn o weithiau Cicero.[31] Ar ei ffordd, treuliodd ddeng niwrnod pleserus yn Bologna, a chafodd ei swyno gymaint gan y ddinas honno nes iddo, ar ôl cyrraedd Milan, ddwyn perswâd yn daer ar Stella y gallai gwblhau ei waith o bell.[32] Dychwelodd i Bologna felly ar 29 Medi 1825, ac yno y cychwynnodd un o gyfnodau hapusach ei oes.[33] Yn fuan iawn daeth i adnabod y Conte Carlo Pepoli, is-lywydd yr Accademia del Felsinei, a mynychai Leopardi gyfarfodydd yr Accademia a salonau'r ddinas. Cyfansoddodd gerdd yn null y dychanwr Giuseppe Parini, y penillion cyntaf iddo greu o'r newydd ers dwy flynedd, a fe'i cyflwynodd i Pepoli.[34] Adroddodd Leopardi y gerdd i'r Accademia ar Ddydd Llun y Pasg 1826.[35] Yn Bologna ffurfiodd Leopardi berthynas agos, ond nid rhamantaidd, â'r Contessa Teresa Carniani Malvezzi, un o wragedd diwylliedig y ddinas a bardd dan y ffugenw Ipsinoe Cidonia. Ysgrifennai Leopardi:
Fe wnaethant fwynhau cwmni ac ymddiddan ei gilydd hyd at dymor yr hydref 1826, pan orfodwyd Leopardi i ddychwelyd i Recanati am gyfnod byr. Tra'r oeddent ar wahân, ni chyrhaeddodd Leopardi unrhyw ohebiaeth o'r Contessa, gan arwyddo iddo ddiwedd siomedig i'w cyfeillgarwch.[37] Dychwelodd i Bologna ar 26 Hydref 1826 ac aeth yn syth i ymweld â'r Contessa, am y tro olaf mae'n debyg.[38] O'r diwedd wedi cael llond bol ar ei annwyl Bologna, gadawodd y ddinas a dychwelodd i fwrw gaeaf arall yn ei dref enedigol, gan gyrraedd Recanati unwaith eto ar 11 Tachwedd 1826.[39] Fflorens a Pisa (1827–28)Wedi iddo dreulio rhyw fisoedd anhapus yn Recanati, yn gyff gwawd y bechgyn lleol wrth iddo gerdded drwy strydoedd y dref, aeth Leopardi ar deithiau unwaith eto yn Ebrill 1827, yn gyntaf yn ôl i Bologna am ddeufis, ac yna ymlaen i Fflorens.[40] Yno, fe blymiodd i fywyd llenyddol un arall o ddinasoedd hanesyddol yr Eidal, gan geisio dod o hyd i'w safle ymhlith cyfoedion ac edmygwyr. Fe'i wahoddwyd i salon Gian-Pietro Vieusseux, un o ddynion amlycaf y ddinas yn yr oes hon, ond ni wnaeth Leopardi fawr o argraff ar eraill. Meddylfryd gwyddonol, yn enwedig dan ddylanwad syniadaeth y Saeson a'r Albanwyr, oedd y ffasiwn ymhlith cylchoedd llenyddol Fflorens ar y pryd, ac felly câi Leopardi, y gwaethafwr a cheingarwr, ei ynysu yn ysbrydol.[41] Yn Fflorens, ymddangosodd tri o'r Operette Morali am y tro cyntaf yn L'Antologia, cyfnodolyn rhyddfrydol a gyhoeddwyd gan y Marchese Gino Capponi.[42] Cyhoeddwyd yr holl gasgliad ar ffurf llyfr yn haf 1827, ond cafodd dderbyniad gwael, ac eithrio adolygiad cefnogol gan ei hen gyfaill Giordani.[43] Cafodd hefyd elyniaeth gyhoeddus gydag un o'i fychanwyr, y newyddiadurwr Niccolò Tommaseo. Er gwaethaf ei ymdrechion, ychydig o gynnydd a wnaeth Leopardi yn Fflorens. Aeth i fwrw rhyw hanner blwyddyn, o ddiwedd 1827 i wanwyn 1828, yn Pisa, cyfnod o dawelwch a fu'n seibiant o'r siomedigaethau a'r anghydfodau.[44] Waeth beth oedd agweddau ei gyfoedion tuag ato, dychwelodd i Fflorens yn haf 1828, a nodir y tro hwn am iddo gyfansoddi un o'i gerddi enwocaf, "A Silvia".[45] Ond cyfnod byr ydoedd, am iddo dderbyn newyddion am farwolaeth ei frawd iau, Luigi, a dychwelodd felly i Recanati yn Nhachwedd 1828.[46][47] Ei gyfnod olaf yn Recanati (1828–30)Profedigaeth deuluol oedd yr achlysur i ddychweliad olaf Giacomo Leopardi i'w dref enedigol, a diffygion ariannol a'i cadwodd yno am 16 mis arall. Yn ogystal â galaru Luigi, teimlai hefyd absenoldeb ei frawd agosaf, Carlo, yr hwn nad oedd croeso iddo yn Palazzo Leopardi wedi iddo briodi yn erbyn dymuniadau ei dad.[48] Heb y moddion i ddianc oddi wrtho'i feddwl ac obsesiynau ei hun, fe syrthiodd Giacomo i iselder dyfnach nag y gwyddai erioed. Dioddefai o bwl arall o offthalmia, gan ei atal rhag gweithio ar y Zibaldone.[49] Byddai'n cerdded am oriau, ar ben ei hunan, yn dal ei ben i lawr a'i ddwylo y tu ôl i'w gefn. Yn ddiweddarach, cyfyngai ei ymarfer corff i gerdded ar hyd ei ystafelloedd, er mwyn osgoi dod ar draws ei deulu hyd yn oed. Bwytaodd ei brydau ar ben ei hun, ei arfer ers ei ddyddiau yn Bologna, a dim ond unwaith y dydd.[50] Er i'r nam ar ei olwg barhau, fe luniodd restr o weithiau arfaethedig, gan gynnwys nofel hunangofiannol o'r enw Storia di un'anima; llyfr cwrteisi ar batrwm Il Galateo (1558) gan Giovanni della Casa; traethawd ar bwnc y nwydau athronyddol; a phenillion ar thema'r "grefft o fod yn anhapus". Er gwaethaf ei uchelgeisiau, ni ddaeth dim o'i gynlluniau llenyddol yn y cyfnod digalon hwn.[51] O'r diwedd, profodd ddigon o ysbryd yn haf 1829 i gyfansoddi llu o benillion, ei eidylau diweddar: "Il passero solitario", "Le ricordance", "La quiete dopo la tempesta", ac "Il sabato del villaggio". At y rheiny ychwanegodd ei "Canto notturno di un pastore errante dell' Asia" yn nhymor y gaeaf 1829–30.[52] Ar 29 Ebrill 1830, gadawodd Leopardi Recanati am y tro olaf, gan dderbyn gwahoddiad oddi wrth y Cadfridog Pietro Colletta i gael ei gynnal yn ariannol yn Fflorens gan gymwynaswr neu gymwynaswyr di-enw, er mwyn iddo fyw'n gyfforddus fel llenor ymhlith llenorion.[53] Ei gyfnod olaf yn Fflorens (1830–33)Teimlodd Leopardi groeso dyledus wrth iddo ddychwelyd i Fflorens, gan dderbyn taliad misol tuag at ei fywoliaeth. Ei gred ar yr adeg hon oedd ei fod yn elwa ar roddion ar y cyd gan gylch o'i gyfoedion, i gydnabod ei statws a'i gynnyrch llenyddol yn hytrach nag o ran tosturi. Ychydig fisoedd wedi i Leopardi gyrraedd, dychwelodd Antonio Ranieri—yr hwn a gyfarfu â Leopardi am y tro cyntaf yn Fflorens ym 1827[54]—hefyd i'r ddinas, ac yn Nhachwedd 1830 symudodd Ranieri i mewn i ystafelloedd y drws nesaf i breswylfa Leopardi.[55] Byrhoedlog fyddai ei lawenydd a'i ddiogelwch, fodd bynnag; collodd y Cadfridog Colletta ei amynedd ymhen flwyddyn, ac ar 10 Ebrill 1831 fe anfonodd i Leopardi randaliad olaf ei lwfans, gan roi wybod iddo taw efe, Colletta, yn unig a fu'n darparu'r arian, ac nid grŵp o gyfeillion.[56] O hynny ymlaen, cyfeillion mynwesol oedd Leopardi a Ranieri, yng nghwmni ei gilydd ran helaeth o'r amser, a daeth Leopardi i ddibynnu arno yn ei gyfnodau o iselder a salwch.[57] Teithiodd y ddau ohonynt i Rufain i fwrw'r gaeaf yn niwedd 1831, er enghraifft, ac yno dioddefodd Leopardi o lid ar y frest.[58] Dychwelasant i Fflorens ym Mawrth 1832.[59] Ymserchai Leopardi unwaith eto ym menyw na fyddai'n dychwelyd ei gariad. Fanny Targioni-Tozzetti, gwraig i'r meddyg a botanegydd Antonio Targioni-Tozzetti, oedd gwrthrych ei serchiadau y tro yma. Cyflwynwyd Leopardi iddi gan y bardd Alessandro Poerio, a byddai ei gariad ffôl yn ysbrydoli'r esiamplau tristaf o'i farddoniaeth delynegol, a'r rheiny yng Nghylch Aspasia.[60] Yn y pum cerdd hon—"Il pensiero dominante", "Amore e Morte", "Consalvo", "A se stesso", ac "Aspasia"—clywir holl amrywiaeth emosiynol y bardd yn y cyfnod angerddol hwn. Anerchir "Il pensiero dominante" at ei syniad haniaethol o serch, sydd yn dystiolaeth o anterth ei deimladau drosti.[61] Ysbrydolwyd "Aspasia" hefyd gan ei gariad tuag at Fanny; Aspasia oedd llysenw y bardd amdani.[62] Yn "Amore e Morte" a "Consalvo", ceir cyfosodiadau o farwolaeth a chariad, themâu sydd yn nodweddiadol o'i besimistiaeth.[63] Er i Fanny oddef Leopardi am gyfnod, byddai'n rhaid iddo gydnabod ei doriad gyda hi yn Ionawr 1833.[64] Yn haf 1833, wedi iddo syrthio i anobaith eto, cyfansoddodd yr olaf o Gylch Aspasia, "A se stesso", cerdd hynod o ingol a dadlennol. Byddai torcalon Leopardi yn barhaol y tro hwn: ni fyddai'n ysgrifennu unrhyw gerddi serch eraill am weddill ei oes, a rhoddai'r gorau hefyd i ychwanegu at ei ddyddlyfr, y Zibaldone.[65] Dirywiai ffawd Leopardi ymhob modd. Yn gyntaf, gwrthododd llywodraeth Toscana ganiatâd iddo lansio cylchgrawn wythnosol, y byddai wedi ei alw'n Lo Spettatore.[66] Gwaethygodd ei iechyd ac aeth ei gyflwr yn wanychol o ganlyniad i byliau o offthalmia yn ogystal â meigryn eithafol. Byddai'n treulio'r dydd yn y gwely, â'r llenni wedi'u tynnu, yn methu â darllen na chlywed eraill yn darllen iddo, yn deffro gyda'r nos ac yn mynd i gysgu cyn y wawr.[67] Beth bynnag fo'i iechyd, cafodd ei hun yn gymdeithasol ynysig wrth i'w gylch o gyfeillion chwalu. Bu farw'r Cadfridog Colletta yn Nhachwedd 1831, a chafodd Leopardi drafferthion gyda'i gymar agosaf, Ranieri. Gwaharddwyd y cylchgrawn Antologia gan y llywodraeth, a gyrrwyd Giordani ac eraill o'r cylch hwnnw yn alltud o Fflorens. Ar 2 Medi 1833, gadawodd Leopardi a Ranieri y ddinas.[68] Treuliasant dair wythnos yn Rhufain ar eu ffordd i Napoli, dinas enedigol Ranieri, lle cyrhaeddon nhw ar 1 Hydref 1833.[69] Diwedd ei oes yn Napoli (1833–37)Wedi iddo gyrraedd Napoli, arhosodd Leopardi yn y Palazzo Cammarota, ger Via Toledo, ar lethr y Vomero, am ddeunaw mis bron. Mae atgofion Leopardi a Ranieri yn disgrifio'r cyni a phryder affwysol a fu'n drwm arnynt yn y cyfnod hwn.[70] Dibynnodd Leopardi ar gymorth ei gyfaill yn ddi-baid, a daeth chwaer Ranieri, Paolina, yn nyrs iddo. Ym Mai 1835, symudodd Leopardi a Ranieri i'r Capodimonte, ardal uwch o'r ddinas, a byddai Paolina hefyd yn byw yno i ofalu amdano lawn amser.[71] Dioddefodd Leopardi o anhunedd, camdreuliad, a diffyg anadl, ac amryw symptomau nerfol a fyddai'n cael eu galw'n ddiweddarach gan yr enw "niwrasthenia". Er gwaethaf ei boen, gwrthododd Leopardi gyngor ei feddyg i roi'r gorau i fwydydd melys.[72] Ym 1835 cyfansoddodd "Palinodia", ymosodiad dychanol ar daliadau Gino Capponi a'i gylch; na châi'r gerdd hon dderbyniad da. Yn niwedd y flwyddyn, cychwynnodd ar ei ddychangerdd "I Paralipomeni della Batracomiomachia", parodi o Chwyldro'r Ddwy Sisili ym 1820 ar batrwm yr arwrgerdd ddigrif Batrachomyomachia; byddai'n cyflawni'r gerdd honno ychydig o ddyddiau cyn ei farwolaeth.[73] Treuliodd Leopardi a Ranieri dri mis, o Ebrill i Fehefin 1836, mewn fila ar lethr Vesuvius, gyda threm ar Torre del Greco, rhyw ddeuddeng milltir o Napoli.[74] Aethant yn ôl i'r fila yn Awst 1836 er mwyn dianc rhag epidemig y geri yn Napoli, a pharhaent yno trwy gydol y gaeaf, yn yr oerfel a'r lleithder, gan beri dioddef chwyddo, llid ar y frest, a thwymyn i Leopardi.[75] Fodd bynnag, cyflawnodd rai o'i benillion tyneraf a harddaf yn y misoedd hyn, gan gynnwys ei alargerdd olaf "Il tramonto della luna", a "La ginestra", y gerdd hiraf o'i holl Canti. Mae'r enw ginestra yn cyfeirio at y banadl sydd yn blodeuo ar lethrau Vesuvius, ac wedi ei farwolaeth rhoddwyd yr enw Villa della Ginestra ar y fila er cof am y bardd.[76] Dychwelodd y ddau ohonynt i Napoli yn Chwefror 1837, a gwaethygodd epidemig y geri yn y ddinas wedyn, ond bu salwch Leopardi yn ormod iddo fentro'r daith yn ôl i Torre del Greco.[77] Yn ei wythnosau olaf, dioddefodd o asthma a rwystrodd rhag cerdded, gorwedd i lawr, a chysgu, a philen ar ei lygad dde.[78] Tybiodd ei feddygon, ar gam mae'n debyg, ei fod yn dioddef o'r dyfrglwyf, a chafodd ei gynghori i ddychwelyd i Torre del Greco ym Mehefin, yn y gobaith byddai'r awyr sychach yn lliniaru ei iechyd.[79] Ar 14 Mehefin 1837, y diwrnod yr oedd disgwyl iddynt gychwyn ar y daith i Torre del Greco, deffrodd Leopardi yn teimlo'n weddol dda, a llwyddodd i arddweud llinellau olaf "Il tramonto della luna" i Ranieri.[80] Yn fuan, fodd bynnag, teimlodd ei asthma yn gwaethygu, ac aeth Ranieri i chwilio am feddyg, a wnaeth alw am offeiriad i roi'r eneiniad olaf iddo. Erbyn i'r offeiriad gyrraedd, bu farw Giacomo Leopardi o fethiant llwyr y galon, yn 38 oed.[81] Hanes cyhoeddi ei waith a'i dderbyniadAc eithrio ei erthyglau ysgolheigaidd ym maes ieitheg, dim ond ychydig o waith Leopardi a gyhoeddwyd yn ystod ei oes, sef ei Canti a'i Operette morali. Ar y cychwyn, ni châi ei farddoniaeth ei chydnabod am ei athrylith gan ddarllenwyr yn yr Eidal. Ystyriwyd ei eidylau yn ddigon swynol a delfrydoledig, ond yn ostyngol a chul eu gweledigaeth. Cyhoeddwyd y Zibaldone am y tro cyntaf ym 1898–1900, i ddathlu canmlwyddiant ei enedigaeth. O ganlyniad, gwrthbwyswyd radicaliaeth y bardd yn llygaid y beirniaid. Ar y llaw arall, bu ei farddoniaeth serch yn rhy ddeallusol a myfyrgar i fod yn boblogaidd.[82] Cesglid ei lythyrau o'r diwedd yn nechrau'r 20g, a fe'u cyhoeddwyd mewn argraffiad dan olygyddiaeth y beirniad Francesco Moroncini ac eraill ym 1934–41.[83] Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Darllen pellach
|