Gorllewin Swydd Northampton
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Northampton, Dwyrain Canolbarth Lloegr, yw Gorllewin Swydd Northampton (Saesneg: West Northamptonshire). Mae gan yr ardal arwynebedd o 1,377 km², gyda 406,733 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2020.[1] Mae'n ffinio â Gogledd Swydd Northampton i'r gogledd-ddwyrain, yn ogystal â siroedd Swydd Buckingham i'r de-ddwyrain, Swydd Rydychen i'r de-orllewin, Swydd Warwick i'r gorllewin, a Swydd Gaerlŷr i'r gogledd-orllewin. Ffurfiwyd yr ardal fel awdurdod unedol ar 1 Ebrill 2021[2] pan unwyd y tair ardal an-fetropolitan Ardal Daventry, Ardal De Swydd Northampton a Bwrdeistref Northampton, a oedd gynt dan weinyddiaeth yr hen sir an-fetropolitan Swydd Northampton. Mae ei phencadlys yn nhref Northampton. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Brackley, Daventry a Towcester. Cyfeiriadau
|