Harri III, brenin Lloegr
Harri III (1 Hydref 1207 - 16 Tachwedd 1272), oedd brenin Lloegr o 19 Tachwedd 1216 hyd ei farw.[1] Roedd yn fab i John, brenin Lloegr a'r frenhines Isabella o Angouleme. Roedd yn frawd i Siwan, gwraig Llywelyn Fawr. Etifeddodd yr orsedd pan oedd yn ddim ond naw oed yn ystod Rhyfel Cyntaf y Barwniaid. Arweiniwyd milwyr Harri gan William Marshal, Iarll 1af Penfro gan drechu'r gwrthryfelwyr ym Mrwydr Lincoln a Sandwich yn 1217. William Marshal oedd ei ymgeleddwr, wedi marwolaeth y brenin John. Cymerodd Harri lw y byddai'n ffyddlon i Siarter Mawr1225, a oedd yn cyfyngu hawliau'r Brenin ac yn dyrchafu hawliau'r barwniaid. Ar ddechrau ei frenhiniaeth, roedd gan Hubert de Burgh ac yna Peter des Roches lle flaenllaw yn ei lywodraethu, a wnaeth dro pedol gan drosglwyddo'r hawliau yn ôl i'r brenin. Ceisiodd y brenin, yn aflwyddiannus, i drechu Ffrainc - y rhan a fu ar un tro'n eiddo i'w dad. Yn 1232 gwrthryfelodd mab William Marshal yn erbyn y brenin, ond daeth yr Eglwys i gymodi rhyngddynt a chafwyd cyfnod o heddwch. Manylion personolFe'i ganwyd yng Nghaerwynt. Priododd Eleanor o Provence yn Ionawr 1236. Plant
Cyfeiriadau
|