Henry Vaughan
Bardd metaffisegol o Gymru yn yr iaith Saesneg oedd Henry Vaughan (17 Ebrill 1621 – 23 Ebrill 1695). BywgraffiadGaned ef a'i efaill, yr athronydd Thomas Vaughan, yn nhreflan Trenewydd, Sgethrog, Sir Frycheiniog yn 1621/1622. Roedd ei daid yn berchennog Llys Tre-tŵr. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Yr Iesu, Rhydychen, er na raddiodd yno, a bu'n astudio'r gyfraith am gyfnod yn Llundain cyn cael ei alw adref ar ddechrau Rhyfeloedd Cartref Lloegr. Roedd yn cefnogi'r blaid frenhinol yn ystod y Rhyfelau Cartref. Cafodd droedigaeth grefyddol tua'r flwyddyn 1650 o dan ddylanwad George Herbert. Bu'n darllen llyfrau defosiynol a gweithiau ar athroniaeth gudd a chyfrin. Dechreuodd weithio fel meddyg. Ysgrifennodd Siegfried Sassoon soned iddo: "At the Grave of Henry Vaughan". Bu farw yn 1695 ac fe'i gladdwyd yn Llansantffraed, Sir Frycheiniog. Llyfrau
CymynroddYmwelodd y bardd Seisnig Siegfried Sassoon â'r bedd Vaughan ac ysgrifennodd y soned "At the Grave of Henry Vaughan" ym mis Awst 1924. |