Dechreuodd fel "Teyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid" trwy uno Serbia, Croatia, Slofenia a Bosnia-Hertsegofina yn 1918. Cymerodd y brenin Alecsander I o Iwgoslafia rym absoliwt iddo'i hun yn 1929 ond cafodd ei asasineiddio gan genedlaetholwyr Croataidd yn 1934. Yn yr Ail Ryfel Byd meddianwyd y wlad gan yr Almaenwyr a ffoes Pedr II o Iwgoslafia, olynydd Alecsander, i alltudiaeth yn Llundain.
Rhanwyd y gwrthsafiad yn erbyn yr Almaenwyr rhwng dwy blaid wrthwynebus, sef y Tsietniciaid a'r Partisaniaid. Enillodd yr olaf gefnogaeth y Cynghreiriaid yn 1943 ac ar ôl y rhyfel sefydlodd eu harweinydd Tito lywodraeth gomiwnyddol.
Roedd Tito yn anfodlon i Iwgoslafia fod dan ddylanwad yr Undeb Sofietaidd a daeth materion i ben yn 1948 pan dorrodd gysylltiadai diplomyddol â'r Sofietiaid. Meiriolwyd y sefyllfa rywfaint yn sgîl marwolaeth Stalin. Dilynodd Tito bolisi o niwtraliaeth mewn materion tramor ('non-alignment') a datblygodd ffurf o sosialaethddatganoliedig unigryw i'r hen Iwgoslafia. Serbo-Croateg oedd yr iaith ffederal swyddogol.
Hall, Brian: The Impossible Country: A Journey Through the Last Days of Yugoslavia. Penguin. Efrog Newydd, 1994
Allcock, John B.: Explaining Yugoslavia. Efrog Newydd: Columbia University Press, 2000
Clark, Ramsey: NATO in the Balkans: Voices of Opposition. International Action Center, 1998
Cohen, Lenard J.: Broken Bonds: The Disintegration of Yugoslavia. Westview Press, 1993
Dragnich, Alex N.: Serbs and Croats. The Struggle in Yugoslavia. Efrog Newydd: Harcourt Brace Jovanovich, 1992
Fisher, Sharon: Political Change in Post-Communist Slovakia and Croatia: From Nationalist to Europeanist. Efrog Newydd: Palgrave Macmillan, 2006
Gutman, Roy.: A Witness to Genocide. The 1993 Pulitzer Prize-winning Dispatches on the "Ethnic Cleansing" of Bosnia. Efrog Newydd: Macmillan, 1993
Jelavich, Barbara: History of the Balkans: Eighteenth and Nineteenth Centuries, Cyfrol 1. Efrog Newydd: American Council of Learned Societies, 1983 ED 236 093
Jelavich, Barbara: History of the Balkans: Twentieth Century, Cyfrol 2. Efrog Newydd: American Council of Learned Societies, 1983. ED 236 094
Silber, Laura and Allan Little: Yugoslavia: Death of a Nation. Penguin, 1997
Owen, David: Balkan Odyssey Harcourt (Harvest Book), 1997
Sacco, Joe: Safe Area Gorazde: The War in Eastern Bosnia 1992-1995. Fantagraphics Books, 2002
West, Rebecca: Black Lamb and Gray Falcon: A Journey Through Yugoslavia. Viking, 1941
White T. Another fool in the Balkans - in the footsteps of Rebecca West. Cadogan Guides, Llundain , 2006
Misha Glenny: The fall of Yugoslavia: The Third Balkan War, ISBN 0-14-026101-X