Mae dadlau ymysg ieithyddion ynglŷn â gwreiddiau'r iaith. Mae rhai yn dadlau'n gryf fod yr iaith yn perthyn i'r teulu Altaig (Altaic), sydd hefyd yn cynnwys Tyrceg a'i changhennau, Mongoleg a Choreeg. Cred ieithyddion eraill fod Japaneg yn rhannu nodweddion â llawer o ieithoedd Awstralasia, tra bod eraill yn credu ei bod hi'n iaith gyfan gwbl ar wahân.
Er bod anghytundeb ynglŷn â gwreiddiau'r iaith, ni ellir dadlau fod dylanwad cryf wedi bod gan y Tsieineeg ar yr iaith, gyda rhai yn dadlau bod hanner geirfa'r Japaneg yn deillio o'r Tsieineeg. Mae Japaneg ddiweddar yn defnyddio cyfuniad o dair system ysgrifennu:
Kanji (漢字) - arwyddluniau Tsieineeg a ddaeth i Japan yn wreiddiol o Tsieina
Kana (かな) - yr enw ar ddwy sillwyddor a ddatblygwyd yn Japan ei hun, sef:
Hiragana (平仮名) - a ddefnyddir ar gyfer geiriau brodorol Japaneg
Katakana (片仮名) - a ddefnyddir ar gyfer geiriau tramor (yn aml Saesneg) neu i amnewid kanji neu hiragana er mwyn pwysleisio'r gair neu frawddeg.
Mae'r wyddor Ladin, Rōmaji, yn cael ei defnyddio'n aml mewn Japaneg ddiweddar, yn enwedig ar gyfer enwau cwmnïau, hysbysebu ac wrth fewnbynnu Japaneg i mewn i gyfrifiadur.
Yn draddodiadol, caiff yr iaith ei hysgrifennu mewn ffurf fertigol a elwir yn tategaki (縦書き) sydd yn golygu darllen fesul colofn (yn hytrach na fesul rhes), gan ddechrau ar frig y golofn ar y dde a darllen i lawr. Wedi cyrraedd gwaelod y golofn, symudir ymlaen i'r golofn nesaf sydd i'r chwith. Yn fwy diweddar defnyddir y ffurf llorweddol a elwir yn okogaki (横書き), ffurf sydd yn fwy cyffredin i Orllewinwyr sydd yn golygu darllen mewn rhesi o'r chwith i'r dde.
Ran amlaf, defnyddir y system rifol Indo-Arabaidd gyfarwydd, yn enwedig os yw ffurf y testun yn llorweddol.
Ymadroddion cyffredin
Prynhawn da: こんにちは konnichiwa
Bore da: おはようございます ohayō gozaimasu
Sut wyt ti?: お元気ですか o-genki desu ka?
Hwyl fawr: さようなら sayōnara
Diolch: ありがとう arigatō
Japan: 日本 Nihon
Japaneg: 日本語 Nihongo
Cymru: ウェールズ Uēruzu
Cymraeg (iaith): ウェールズ語 Uēruzugo
Cymry/Cymro/Cymraes: ウェールズ人 Uēruzujin
Llyfryddiaeth ddethol
Kuno, Susumu. (1973). The structure of the Japanese language. Cambridge, MA: MIT Press. ISBN 0-262-11049-0.
Martin, Samuel E. (1975). A reference grammar of Japanese. New Haven: Yale University Press. ISBN 0-300-01813-4.
McClain, Yoko Matsuoka. (1981). Handbook of modern Japanese grammar: 口語日本文法便覧 [Kōgo Nihon bumpō benran]. Tokyo: Hokuseido Press. ISBN 4-590-00570-0; ISBN 0-89346-149-0.
Miller, Roy. (1967). The Japanese language. Chicago: University of Chicago Press.
Miller, Roy. (1980). Origins of the Japanese language: Lectures in Japan during the academic year, 1977-78. Seattle: University of Washington Press. ISBN 0-295-95766-2.
Mizutani, Osamu; & Mizutani, Nobuko. (1987). How to be polite in Japanese: 日本語の敬語 [Nihongo no keigo]. Tokyo: Japan Times. ISBN 4-7890-0338-8.
Shibatani, Masayoshi. (1990). Japanese. In B. Comrie (Ed.), The major languages of east and south-east Asia. Llundain: Routledge. ISBN 0-415-04739-0.
Shibatani, Masayoshi. (1990). The languages of Japan. Caergrawnt: Cambridge University Press. ISBN 0-521-36070-6 (hbk); ISBN 0-521-36918-5 (pbk).
Shibamoto, Janet S. (1985). Japanese women's language. New York: Academic Press. ISBN 0-12-640030-X.
Tsujimura, Natsuko. (1996). An introduction to Japanese linguistics. Cambridge, MA: Blackwell Publishers. ISBN 0-631-19855-5 (hbk); ISBN 0-631-19856-3 (pbk).
Tsujimura, Natsuko. (Ed.) (1999). The handbook of Japanese linguistics. Malden, MA: Blackwell Publishers. ISBN 0-631-20504-7.