Kidderminster
Tref a phlwyf sifil yng ngogledd Swydd Gaerwrangon, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Kidderminster.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Wyre Forest. Saif tua 13 milltir (21 km) i'r gogledd o ddinas Caerwrangon a tua 17 milltir (27 km) i'r de-orllewin o ganol Birmingham. Saif y dref ar Afon Stour ac mae Camlas Swydd Stafford a Swydd Gaerwrangon yn mynd trwyddi hefyd. Ar un adeg roedd yn enwog am ei diwydiant cynhyrchu carpedi, ac mae rhywfaint o hyn yn parhau. Mae ffyrdd yr A442, yr A449, yr A451, yr A4535 a'r A456 yn pasio drwy'r dref. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 55,098.[2] Cyfeiriadau
Dinasoedd a threfi
Dinas |