Kirklees
Bwrdeistref fetropolitan yng Ngorllewin Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Kirklees. Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 409 km², gyda 439,787 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Calderdale a Dinas Bradford i'r gogledd-orllewin, Dinas Leeds i'r gogledd-ddwyrain, Dinas Wakefield i'r dwyrain, De Swydd Efrog i'r de-ddwyrain, Swydd Derby i'r de, a Manceinion Fwyaf i'r gorllewin. Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Gorllewin Swydd Efrog, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas. Rhennir y fwrdeistref yn bum plwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Huddersfield, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Batley, Cleckheaton, Dewsbury, Heckmondwike, Holmfirth, Meltham a Mirfield. Enwir y fwrdeistref ar ôl Priordy Kirklees, sydd yng nghanol yr ardal. Cyfeiriadau
|