Llanrhuddlad
Pentref a phlwyf eglwysig yng nghymuned Cylch-y-Garn yng ngogledd Môn yw Llanrhuddlad[1] ( ynganiad ) (Llanrhyddlad ar y map OS). Saif ar y briffordd A5025 rhwng Cemaes, tua 4 milltir a hanner i'r gogledd-ddwyrain, a Llanfaethlu, tua 2 filltir i'r de-orllewin. Enwir yr eglwys a'r plwyf ar ôl y Santes Rhuddlad. Y cwbl a wyddys amdani yw ei bod yn ferch i frenin Leinster, dros y môr yn Iwerddon, yn ôl yr hynafiaethydd Henry Rowlands yn ei gyfrol Mona Antiqua Restaurata (1723). Ceir englyn ar garreg fedd ym mynwent yr eglwys: O’r pridd wy' ŵr pruddaf, – pridd wyf Mae lôn yn arwain i fae Borth Swtan ar yr arfordir, trwy bentref Rhydwyn, tua 2 filltir i'r gorllewin. Adeiladau a chofadeiladauCyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |