Llundain Allanol
Grŵp o fwrdeistrefi Llundain sy'n ffurfio cylch o amgylch rhan ganolog Llundain Fwyaf, Lloegr, yw Llundain Allanol (Saesneg: Outer London). Llundain Fewnol yw'r rhan ganolog. Nid oedd y bwrdeistrefi yn Llundain Allanol wedi bod yn rhan o Sir Llundain cyn i Lundain Fwyaf gael ei chreu ym 1965. Eithriad yw North Woolwich, a oedd wedi bod yn rhan o'r hen sir ond a drosglwyddwyd i Newham o dan y trefniant newydd. Mae gan yr enw "Llundain Allanol" ddau ddiffiniad cyffredin. Y cyntaf yw'r diffiniad statudol a amlinellir yn Deddf Llywodraeth Llundain 1963, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 1965, yn cynnwys yr ugain bwrdeistref ganlynol:
Yr ail yw'r diffiniad a ddefnyddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n cynnwys y deuddeg bwrdeistref a restrir uchod, ac eithrio Haringey a Newham, ond hefyd yn cynnwys Greenwich.
|