Mark Hughes
Rheolwr a chyn chwaraewr pêl-droed yw Leslie Mark Hughes, llysenw Sparky (ganwyd 1 Tachwedd 1963), fel yr adwaenir ef. Cafodd ei eni a'i fagu yn Rhiwabon, ger Wrecsam. Cafodd 72 cap am chwarae dros Gymru. Bu'n chwarae i Manchester United (dwywaith), Bayern Munich, Chelsea, Southampton, Everton a Blackburn Rovers. Yn 1999 fe'i benodwyd yn rheolwr rhan amser ar dîm cenedlaethol Cymru ac yn ddiweddarach yn rheolwr llawn amser. Yn mis Hydref 2004 fe ymddiswyddodd fel rheolwr Cymru er mwyn rheoli Blackburn Rovers hyd 2008. Bu'n rheolwr ar Manchester City o 2008 hyd at Ragfyr 2009 a rheolwr Fulham o Orffennaf 2010 i Fehefin 2011. Bu'n reolwr Queens Park Rangers rhwng Ionawr a Thachwedd 2012. Chwaraeodd Mark Hughes ei hun mewn rôl cameo yn y bennod 'Gweld Sêr' o'r gyfres C'mon Midffîld! ar S4C yn 1990. Ymddangosodd Mark i syndod pawb wedi iddo gael gwahoddiad drwy fab i chwaer yng nghyfraith Wali Thomas, a oedd yn nai i ewythr cyfnither Mark. Wrth ymddangos ar y cae fe ofynnodd i Mr Picton, "Siawns am gêm?" (yn Gymraeg), cyn mynd ar y cae a sgorio gôl. Bu'n eistedd wrth ochr Wali yn gymanfa ganu'r capel ar ddiwedd y rhaglen, er na chanodd.
|