Maximilian II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Uchelwr o Dŷ Hapsbwrg oedd Maximilian II (31 Gorffennaf 1527 – 12 Hydref 1576) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 1564 i 1576 ac yn Archddug Awstria o 1564 i 1576. Ganed yn Fienna yn fab i Ferdinand, Archddug Awstria a Brenin Bohemia, Hwngari a Chroatia, a'i wraig Anne. Er iddo dderbyn ei addysg yn Sbaen, trodd Maximilian yn elyniaethus tuag at gyff Sbaenaidd y Hapsbwrgiaid a oedd yn cystadlu am olyniaeth yn erbyn Hapsbwrgiaid Awstria. Etholwyd Ferdinand yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig yn sgil ymddiorseddiad ei frawd hŷn Siarl V, ym 1556. Bu Maximilian yn cydymdeimlo â'r Lwtheriad ers ei ieuenctid, ac ym 1559 cafodd ei rybuddio gan ei dad rhag ymochri â gelynion crefyddol ei deulu. Er mwyn peidio ag ildio'i hawl i'r orsedd, cytunodd Maximilian i esgus fod yn Gatholig, er yr oedd yn breifat yn ddyneiddiwr Cristnogol.[1] Esgynnodd Maximilian i orsedd Bohemia ym Medi 1562, ac fe'i penodwyd yn Frenin y Rhufeiniaid yn Nhachwedd 1562 ac yn Frenin Hwngari ym 1563. Olynodd ei dad yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig wedi marwolaeth Ferdinand yng Ngorffennaf 1564. Trwy gydol ei deyrnasiad, ffafriodd Maximilian gymodi rhwng yr Eglwys Gatholig a'r enwadau newydd yn sgil y Diwygiad Protestannaidd. Er iddo wrthod cydnabod esgobion Protestannaidd o fewn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, ym 1568 rhoddodd ryddid i bendefigion Awstria addoli mewn eglwysi Protestannaidd, ac ym 1575 cyhoeddodd ei fod am barchu rhyddid crefyddol ym Mohemia. Ymdrechodd i ddiwygio'r Eglwys Gatholig, er enghraifft drwy alw am hawl offeiriaid i briodi, ond wynebodd gyndynrwydd y Sbaenwyr.[1] Bu farw Maximilian yn Regensburg yn 49 oed, ac fe'i olynwyd gan ei fab Rudolf II.[1][2] Cyfeiriadau
|