Moreton-in-Marsh
Tref a phlwyf sifil yn Swydd Gaerloyw, De-orllewin Lloegr yw Moreton-in-Marsh.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Cotswold. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 3,493.[2] Tardda'r enw "Moreton" o "Farmstead on the Moor," ac mae "in Marsh" yn cyfeirio at leoliad y dref ar wastadedd clai corslyd. Mae'n gorwedd yn ardal y Cotswolds. Un filltir i'r dwyrain o Moreton ceir Carreg y Pedair Sir (Saesneg: Four Shires Stone) sy'n nodi'r hen ffin rhwng Swydd Gaerloyw, Swydd Warwick, Swydd Gaerwrangon a Swydd Rydychen. Adeiladau a chofadeiladau
Cyfeiriadau
Dinasoedd a threfi
Dinas
|