Share to: share facebook share twitter share wa share telegram print page

 

Mwsogl

Planhigion anflodeuol bychan o'r rhaniad Bryophyta yw mwsoglau. Mae tua 12,000 o rywogaethau yn y byd.[1] Fel arfer maent yn tyfu ar ffurf matiau neu glympiau mewn lleoedd llaith neu gysgodol. Mae mwsoglau'n blanhigion anfasgwlaidd heb feinwe sylem a ffloem i gludo dŵr. Maent yn atgenhedlu â sborau yn hytrach na hadau ond mae ganddynt ddail syml, un gell o ran trwch ar fonyn nad yw'n arbennig o dda am dynnu dŵr a maeth.

Fel rheol, maent yn 0.2–10 cm (0.1–3.9 modf.) o daldra, ond mae rhai rhywogaethau'n llawer mwy na hyn: Dawsonia, yw'r math talaf, a gall dyfu i hyd at 50 cm (20 modf.) o uchter.


Defnydd gan y werin

Mwsog ar gerrig yng Nghoedydd Aber, ger Rhaeadr Fawr, Bwrdeisdref Conwy
  • Sebon Teiliwr: "Bu Mrs Heulwen Roberts o Faentwrog yn son wrthym'[2] 'am fwsogl sy’n tyfu ar lannau pyllau a alwai’n “sebon teiliwr. Cofiai deilwriaid yn ei gasglu yn ystod ei ieuenctid i smwddio i mewn i ddillad i'w startsio. Ni wyddom at ba fwsogl y cyfeiriai, os mwsogl o gwbl ond fe gafwyd, ar ôl rhywfaint o ymchwil, ei bod yn bosibl mai cen cerrig oedd y planhigyn, e.e. Ramalina calicaris."
  • Mwsoglu - yr arferiad o hel a defnyddio mwsogl gan y werin bobl.
  • Llyffethair o fwsogl: "Glywoch chi am neud rhaff o'r sidan bengoch [Polytrichum commune]? Mi ddangosodd 'newyrth i fi dros ugain mlynedd yn ôl sut i neud llyffethair ohono - peth handi iawn i allu i neud ar y mynydd. Ar ôl rhyddhau's pishys o sidan bengoch o wrth ei gilydd a'u neud yn bentwr, mi fachodd nhw a bys un llaw trwy'r llaw arall (oedd ar ffurf arwydd 'ok' dros y twmpath). Wrth eu troi a'u plethu, roedd y gorden a nawd yn cael ei dala yng nghanol y llaw oedd yn troi, ar siap malwen (h.y. yn cyfyngu ar ei gallu i droi yn rhydd). I fennu, mi ddyblodd y rhaff (a thrwy hynny wrthwneud grym y troi wrth gwrs) a wedyn agor y bleth er mwyn rhoi un pen trwy blethau'r llall. Wrth feddwl, dim llyffethair sensu stricto oedd e, ond cylch - torch oedd ei enw amdano. Mi'i rhoid rownd gwddwg y ddafad er mwyn rhoi ei throed drwyddi."[3] (Carchar yw'r term am llyffethair yn Arfon)

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Goffinet, Bernard; William R. Buck (2004). "Systematics of the Bryophyta (Mosses): From molecules to a revised classification". Monographs in Systematic Botany. Molecular Systematics of Bryophytes (Missouri Botanical Garden Press) 98: 205–239.
  2. Bruce Griffiths ac Ann Corkett ym Mwletin 23 (Llên Natur)
  3. Gwyn Jones, Bwletin Llên Natur rhifyn 38
Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Prefix: a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Portal di Ensiklopedia Dunia

Kembali kehalaman sebelumnya