Neil Kinnock
Mae Neil Gordon Kinnock (ganwyd 28 Mawrth 1942 yn Nhredegar), yn wleidydd o Gymro, arweinydd y Blaid Lafur 1983-1992. Roedd'n briod â Glenys Kinnock. GyrfaRoedd yn un o'r prif ymgyrchwyr yn erbyn polisi'r Blaid Lafur adeg refferendwm 1979 i gael Cynulliad i Gymru. Fel prif arweinydd y "Gang o Chwech", gyda'r ASau Llafur Cymreig Leo Abse, Ifor Davies, Donald Anderson, Alfred Evans a Ioan Evans, chwaraeodd ran amlwg iawn yn yr ymgyrch dros bleidlais nacaol a'r canlyniad fu i nifer o bleidleiswyr Llafur naill ai beidio â phleidleisio neu bleidleisio yn erbyn cael Cynulliad. Bu Kinnock yn wrthwynebus i'r iaith Gymraeg ar hyd ei yrfa. Cyhuddodd un o ysgolion Gwynedd o rwystro plentyn rhag mynd i'r toiled am nad oedd yn gallu gofyn yn y Gymraeg. Dangosodd ymchwiliad bod y cyhuddiad yn gwbwl ddi-sail. Cred llawer ei fod wedi bradychu'r glowyr yn ystod Streic Fawr y Glowyr (1984-5) a arweiniodd at danseilio'r diwydiant glo, gan chwalu nifer fawr o gymunedau. Er gwaethaf ymrwymiad Kinnock i'r wladwriaeth Brydeinig a'i wrthwynebiad ffyrnig i unrhyw fath o genedlaetholdeb Cymreig, pan oedd yn arweinydd ei blaid cafodd ei ddilorni'n gyson gan y wasg yn Lloegr am ei fod yn Gymro. Y disgrifiad enwocaf ohono gan y wasg tabloid oedd "Welsh windbag". Roedd yn is-arlywydd Comisiwn Prodi yn Senedd Ewrop o 1999 hyd 2004. Fe'i hadnabyddir bellach fel 'Baron Kinnock' ac mae ganddo sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi yn Llundain. Mae'n Llywydd Prifysgol Caerdydd. Cyfeiriadau
|