Oliver Stone
Mae William Oliver Stone (ganed 15 Medi 1946) yn gyfarwyddwr a sgriptiwr ffilmiau o'r Unol Daleithiau. Daeth Stone yn enwog fel cyfarwyddwr gyda chyfres o ffilmiau am Ryfel Fietnam, rhyfel yr oedd ef ei hun wedi cymryd rhan ynddo fel milwr. Mae Stone yn parhau i weithio ar faterion gwleidyddol a diwylliannol cyfoes, ac yn aml ystyrir ei weithiau fel rhai dadleuol. Enillodd dair o Wobrau'r Academi, y cyntaf am ei sgript ar gyfer Midnight Express (1978). Enillodd Wobrau'r Academi hefyd am gyfarwyddo Platoon (1986) a Born on the Fourth of July (1989), gyda'r ddwy ffilm yn sôn am Ryfel Fietnam. Nodwedd amlwg o'r arddull gyfarwyddo yw ei ddefnydd o gamerau a fformatau ffilm gwahanol, o VHS o ffilm 70mm. Weithiau, defnyddia nifer o fformatau gwahanol yn yr un olygfa, fel a welwyd yn JFK (1991) a Natural Born Killers (1994). Yn aml, beirniedir ffilmiau Stone am hyrwyddo damcaniaethau cynllwynion a diffyg cywirdeb hanesyddol. Yn ogystal, beirniadwyd y ffilm "Natural Born Killers" am glodfori trais; fodd bynnag, dadleua Stone fod y ffilm yn dychanu diddordeb y cyfryngau mewn darlunio trais. FfilmograffiaethFel cyfarwyddwr
Gweithiau eraill
Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
|