statutory city in Czechia, municipality of the Czech Republic, capital of region, district town, municipality with authorized municipal office, dinas fawr, Czech municipality with expanded powers, municipality with town privileges in the Czech Republic
Bohumín, Petřvald, Šenov, Vřesina, Čavisov, Stará Ves nad Ondřejnicí, Klimkovice, Vratimov, Velká Polom, Dolní Lhota, Jistebník, Hlučín, Šilheřovice, Ludgeřovice, Dobroslavice, Děhylov, Krmelín, Paskov, Rychvald
Saif Ostrava yn nwyrain y wlad, ar afon Oder. Ffurfiwyd y ddinas fel y mae heddiw yn 1945, pan unwyd Moravská Ostrava (Almaeneg: Mährisch Ostrau) a Slezská Ostrava (Schlesisch Ostrau, hefyd: Polnisch Ostrau). Saif ar y ffin rhwng tiriogaethau hanesyddol Morafia a Silesia, ar hen lwybr masnach. Mae'n ganolfan ddiwydiannol bwysig, er bod llawer o'r pyllau glo a gweithfeydd dur yn yr ardal wedi cau yn y blynyddoedd diwethaf, a diweithdra wedi cynyddu.
Ceir dwy brifysgol yma, a phedair theatr, yn cynnwys y Národní divadlo moravskoslezské (Theatr Genedlaethol Morafia-Silesia), sydd a dau adeilad, un wedi ei enwi ar ôl Antonín Dvořák.