Prifysgol Humboldt Berlin
Prifysgol gyhoeddus a leolir ym mwrdeistref Mitte ym mhrifddinas yr Almaen, Berlin, yw Prifysgol Humboldt Berlin (Almaeneg: Humboldt-Universität zu Berlin). Sefydlwyd Prifysgol Berlin (Universität zu Berlin) yn 1809 gan Ffredrig Wiliam III, brenin Prwsia, ar gais Wilhelm von Humboldt, ac agorodd yn 1809.[1] Hon yw'r hynaf o'r pedair prifysgol sydd ym Merlin. O 1828 hyd ei gau ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd yn 1945, ei enw oedd Prifysgol Friedrich Wilhelm (Friedrich-Wilhelms-Universität).[2] Fe'i hail-agorwyd yn 1949 dan yr awdurdodau Sofietaidd yn Nwyrain Berlin gyda'r enw newydd Prifysgol Humboldt Berlin.[3] Rhennir y brifysgol yn naw cyfadran, gan gynnwys yr ysgol feddygol sy'n gysylltiedig hefyd â Phrifysgol Rydd Berlin. Mae ganddi 32,000 o fyfyrwyr sydd yn astudio cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig mewn rhyw 189 o ddisgyblaethau.[4] Lleolir y prif gampws ar rodfa'r Unter den Linden yng nghanol Berlin. Cydnabyddir y brifysgol am arloesi model Humboldt yn addysg uwchradd, sydd wedi dylanwadu'n gryf ar brifysgolion eraill yn Ewrop a'r Gorllewin. Gelwir Humboldt felly yn "fam y brifysgol fodern".[5] Cyfeiriadau
|